Â鶹Éç

Dic Penderyn - Arwr y Gweithwyr

top
Cofeb Dic Penderyn

Gofynnwch i unrhyw un pwy oedd Richard Lewis, a phrin y cewch ateb. Gofynnwch wedyn pwy oedd Dic Penderyn ac mae'n stori wahanol. Dau enw ar yr un dyn yw Richard Lewis a Dic Penderyn, a'r un dyn hwnnw yn arwr gwerin a gaiff ei ystyried yn ferthyr cyntaf y dosbarth gweithiol.

Calon y Chwyldro Diwydiannol

Castell Cyfarthfa
Castell Cyfarthfa

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Merthyr Tudful oedd calon a chanol y Chwyldro Diwydiannol, prifddinas y byd o ran y diwydiant dur, lle'r oedd poblogaeth o 8,000 yn 1801 wedi tyfu i ymron 40,000 o fewn 30 mlynedd.

Ehangodd y dref yn rhy gyflym gyda'r canlyniad fod yno brinder tai a diffyg glanweithdra. Roedd clefydau fel colera yn rhemp yno a phlant yn marw wrth y dwsin bob dydd.

Perchennog gwaith dur Cyfarthfa oedd Richard Crawshay. Roedd Cyfarthfa'n un o bedwar gwaith tebyg yn yr ardal. Trigai Crawshay yng Nghastell crand Cyfarthfa, sydd heddiw'n amgueddfa.

Tyrrodd dynion ifanc a arferai weithio'r tir i'r gweithfeydd dur lle'r oedd y cyflog deirgwaith yn uwch, ond erbyn 1829 roedd y gwaith yn dechrau teimlo effaith dirwasgiad a barhaodd am dair blynedd.

Codi'r faner goch

Dic Penderyn yn wynebu'r grocbren
Dic Penderyn yn wynebu'r grocbren

Gwnaed miloedd yn ddi-waith a dechreuwyd atafaelu eiddo'r rheiny oedd mewn dyled. Ceisiwyd yn ofer i basio'r Ddeddf Diwygio, ac o ganlyniad unodd y dosbarth gweithiol.

Cynhaliwyd rali enfawr uwchlaw'r dref ar 2 Mehefin 1831, rali a drodd yn wrthryfel o dan gysgod baner goch a wnaed o gynfas wen wedi ei throchi mewn gwaed llo.

Danfonwyd mintai o'r Argyll and Sutherland Highlanders a'r Royal Glamorgan Light Infantry i geisio tawelu'r gwrthryfel. Parhaodd y cynnwrf am wythnos, gyda'r gweithwyr yn trechu'r milwyr ddwywaith.

Y tu allan i Dafarn y Castell y digwyddodd yr helbul gwaethaf, lle wynebai torf o ddwy fil y rhengoedd milwyr, ac yn y brwydro a ddilynodd lladdwyd dros ddwsin o'r gweithwyr.

Arestio'r Arweinwyr

O'r diwedd llwyddodd y milwyr i gael y gorau ar y gweithwyr ac arestiwyd cynifer â 28 o'r gwrthryfelwyr.

Yn eu plith roedd Lewis Lewis, neu Lewsyn yr Heliwr, a Richard Lewis, neu Dic Penderyn, dau o'r prif arweinwyr.

Un o'r rhesymau dros y cythrwfl fu atafaelu eiddo Lewsyn yr Heliwr yn erbyn dyled o ymron i £19. Cyhuddwyd Dic o drywanu milwr o'r enw Donald Black, aelod o'r Highlanders, ac er na lwyddodd Black i adnabod y naill na'r llall ohonynt, dedfrydwyd Lewsyn a Dic i'w crogi.

Cefndir Dic

Ganwyd Dic Penderyn yn 1808 yn fab i Lewis a Mary Lewis. Roedd y fam, mae'n debyg, yn grydd. Credir fod ganddo frawd a losgai galch yng Nghefn Cribwr ac a gâi ei alw'n John y Calchwr.

Derbyniodd Dic ychydig addysg yn y capel lleol ac yna, yn 1819, symudodd ef a'i deulu i Ferthyr Tudful lle cychwynnodd ef a'i dad weithio fel glowyr.

Dechreuodd Dic frwydro dros hawliau'r gweithwyr yn ifanc iawn. Collodd ei swydd o'r herwydd, ond erbyn 1831 roedd Dic yn ôl yng nghanol y frwydr a arweiniodd at ei dranc.

Diddymwyd y ddedfryd yn erbyn Lewsyn yr Heliwr a'i newid i un o alltudiaeth am oes. Un ffactor o'i blaid oedd iddo unwaith achub bywyd cwnstabl arbennig yr ymosodwyd arno.

Roedd y dystiolaeth yn erbyn Dic yn fratiog a dweud y lleiaf. Cyfaddefodd un tyst na fedrai adrodd yr hyn a ddywedwyd gan Dic a rhai o'r lleill y tu allan i Westy'r Castell ar y diwrnod tyngedfennol am na allai ddeall Cymraeg.

Ras yn erbyn y grocbren

Arglwydd, dyma gamwedd...

Dic Penderyn wrth ei grogi

Cychwynnwyd ymgyrch i achub bywyd Dic. Casglwyd 11,000 o enwau ar ddeiseb ym Merthyr Tudful ac arweiniwyd yr ymgyrch gan Joseph Tregelles Price - meistr dur ond gŵr a oedd hefyd yn Grynwr. Bu ei ddadleuon mor effeithiol fel iddo hyd yn oed berswadio'r Barnwr fod Dic yn ddieuog.

Serch hynny, gwrthododd y Gweinidog Cartref, yr Arglwydd Melbourne, â newid y ddedfryd. Cred haneswyr mai'r gwir reswm dros i Dic gael ei grogi oedd er mwyn gwneud esiampl o benboethyn undebol, gan fod cyfrinfeydd undebau llafur wedi eu sefydlu yn ne Cymru erbyn hynny a'r gweithwyr wedi dechrau dangos eu dannedd.

Dim ond 23 mlwydd oed oedd Dic pan wynebodd y grocbren. Roedd yn ŵr priod, yn dad ac roedd ei wraig yn feichiog. Yn wir, dywed un hanesyn fod ei wraig, erbyn dyddiad y dienyddio, wedi geni'r plentyn. Dywedir iddi gerdded ar noswyl y crogi yr holl ffordd i Gaerdydd yn cario'r baban, ac i'r baban hwnnw farw cyn iddi gyrraedd.

Codwyd crocbren yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd a chrogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst. Wrth wynebu'r rhaff, dywedir iddo weiddi, 'Arglwydd, dyma gamwedd'. Dywedir hefyd i filoedd o gefnogwyr a galarwyr gerdded gyda'r arch yn ôl i Aberafan. Yno, yn ôl yr hanes, disgynnodd colomen wen ar ei arch.

Crogi ar Gam

Bedd Dic Penderyn
Bedd Dic Penderyn

Nid dyna ddiwedd y stori. Yn 1874, adroddwyd gan y Western Mail fod gŵr o'r enw Ieuan Parker wedi cyffesu ar ei wely angau yn America mai ef oedd wedi trywanu Donald Black.

Yn Amgueddfa Heddlu De Cymru arddangosir crair sy'n atgof o fywyd a marwolaeth Dic Penderyn. Mewn cas gwydr yno, ceir pastwn byr ac yn hwnnw y cariwyd y warant ar gyfer arestio Dic Penderyn. Mae'r geiriau 'Merthyr Tydfil' a'r dyddiad 1831 wedi eu hysgythru ar y metel sy'n amgylchynu'r pastwn.

Does dim dadl i Dic Penderyn gael ei grogi ar gam. Gwadodd dro ar ôl tro y bu ganddo unrhyw ran yn yr ymosodiad ar y milwr, a chadarnhawyd hyn gan y milwr ei hunan. Y cyfan a ddywedodd hwnnw yn y llys oedd iddo weld Dic yn sefyll gerllaw.

Hyd yn oed yn ddiweddar bu ymgyrch i glirio'i enw, ond erys y ffaith i'r awdurdodau, ac nid am y tro cyntaf, greu merthyr trwy grogi rhywun ar gam.

Cofio'r Arwr

Mae digwyddiadau 2 Mehefin a 13 Awst 1831 yn dal i atseinio hyd heddiw. Mudferwodd canlyniadau'r gwrthryfel a dienyddiad Dic Penderyn am flynyddoedd ymysg rhengoedd y dosbarth gweithiol, a hynny er mawr ofid i'r awdurdodau.

Crëwyd delwedd o Dic Penderyn fel dyn cyffredin a'i cafodd ei hun mewn sefyllfa anghyffredin ac a ddienyddiwyd ar gam. Daeth yn destun cerdd a chân. Bu'n destun drama. Mae wedi hawlio ei le ar lwyfan y byd ochr yn ochr ag arwyr eraill y dosbarth gweithiol fel Joe Hill a James Connolly.

Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.