Â鶹Éç

Ail-gread o un o longau mawr y cyfnod, yr SS Great Eastern. Adeiladwyd y Titanic dan amgylchiadau tebyg ym Melfast.

Cymry'r Titanic

Hi oedd un o longau mwyaf moethus a modern ei dydd, llong oedd yn cynrychioli oes aur newydd ar y môr ac, ar y pryd, y llong fwyaf i hwylio'r moroedd erioed.

Ond, fel y gŵyr pawb, pan drawodd y Titanic fynydd iâ ar ei mordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd ychydig cyn hanner nos ar Ebrill 14 1912 nid ei modernrwydd 'ansuddadwy'1 a sicrhaodd ei lle eiconig yn y llyfrau hanes, ond y dros 1500 o bobl a gollodd eu bywydau yn y dyfnderoedd rhewllyd yn oriau mân Ebrill 15.

Doedd gan long enfawr cwmni'r White Star Line ddim gobaith yn erbyn y graig o iâ a rwygodd ei hochr fel cyllell boeth drwy fenyn. A heb ddigon o fadau achub i'r 2,207 o bobl oedd ar ei bwrdd2 - dim ond lle i 1,178 - roedd trychineb yn anochel y noson honno.

Glo Cymru

Mae ymchwil i'r tunelli o lo oedd yng nghrombil y Titanic yn bwydo ei injanau stêm, ac sy'n dal yno ar waelod y môr, yn dangos mai o byllau glo de Cymru y deuai dros dri chwarter y tanwydd.

Yr oedd glöwyr Prydain ar streic yn y cyfnod cyn i'r llong hwylio, ac roedd rhai o byllau de Cymru ymysg yr ychydig rai oedd yn parhau i weithio ar y pryd

Mae'n debyg bod prinder glo yn y porthladd yn Southampton ar ddiwrnod lawnsio'r Titanic, ond gwnaeth White Star yn siwr y byddai'n cychwyn ar ei thaith ar amser drwy gymryd glo o longau eraill.

    Pan foriodd yr RMS Titanic am y tro cyntaf o borthladd Southampton am Efrog Newydd, gyda glo Cymru yn pweru ei injanau stêm, roedd arni dros 1,300 yn deithwyr yn mwynhau cyfleusterau moethus yr 11 o ddeciau oedd ar y llong a thua 900 o aelodau'r criw.

    Roedd y teithwyr yn cynnwys rhai o ddynion cyfoethoca'r oes ar y deciau uchaf a nifer llawer mwy o werin gwlad ar y deciau isaf. Roedd teithwyr y trydydd dosbarth wedi gwario eu ceiniogau olaf ar docyn fyddai'n eu cludo i'r Unol Daleithiau i ddechrau bywyd newydd.

    Ac yn eu mysg roedd 'na Gymry.

    "Mor fawr â Threherbert ..."

    Roedd y paffwyr David John (Dai) Bowen, 21, o Dreherbert yn y Rhondda a Lesley Williams, 24 oed o Donypandy, wedi prynu eu tocynnau trydydd dosbarth i'r Titanic yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd gan gwmni teithio Dean and Dawnson.

    Roedden nhw ar eu ffordd i wneud enwau i'w hunain yn yr Unol Daleithiau ac yn edrych ymlaen i sawl gornest bocsio oedd wedi eu trefnu ar eu cyfer. Fe dalasant £16 2s i gychwyn ar eu hantur fawr o Southampton ar Ebrill 10, 1912.

    Dai Bowen oedd pencampwr bocsio pwysau pluen Cymru. Ar Ebrill 11, ysgrifennodd y cyn-löwr at ei fam weddw: "Mae hon yn llong hyfryd, mae hi bron iawn mor fawr â Threherbert ..."

    Bocsiwr pwysau bantam oedd Lesley Williams, hefyd yn löwr ac yn briod gydag un mab. Fel Dai Bowen roedd yn cael ei ystyried yn focsiwr addawol.

    Daethpwyd o hyd i gorff Lesley Williams gan y Mackay-Bennett - y llong a gafodd y dasg o chwilio am gyrff y meirw. Roedd wedi ei wisgo mewn côt fawr, siwt wlân las, crys a dwy sgarff ac arno roedd dau lyfr poced, dwy fodrwy aur, pâr o gyfflincs arian, ei docyn, papurau, cyllell, £3 10s, $30 mewn arian a £2 6s mewn ceiniogau arian a chopr.

    Ni ddaethpwyd o hyd i gorff Dai Bowen.

    Cerdyn post

    Glöwr arall a foddodd oedd William Rogers, 29 oed, o Bontardawe. Ysgrifennodd gerdyn post i'w gyfaill, James Day, o Queenstown yn Iwerddon ar 11 Ebrill yn dweud "... dim ond gair i ddangos fod mod yn fyw ac yn iach, (mae'n) mynd yn wych, mae'n dipyn o treat ...".

    Yn teithio gydag o roedd ei nai 22 oed, Evan Davies, glöwr o Fryncoch ger Castell-nedd. Roedd y ddau wedi talu £8 1s am eu tocyn trydydd dosbarth. Ni chafwyd hyd i gyrff y naill na'r llall ond mae'n debyg bod cofeb iddynt yng Nghapel y Glais, Cwmtawe.

    Mae cofeb arall i un o feirw'r Titanic yn Eglwys Llangatwg ger Castell-nedd - Robert William Norman Leyson, 25 oed, o Abertawe. Yn fab i gyfreithiwr amlwg o'r ddinas, roedd ar ei ffordd i ymuno â'i frawd, Thomas, yn Efrog Newydd.

    Cafwyd hyd i'w gorff gan y Mackay-Bennet ac mae'r cofnodion o'i eiddo yn dyst i'w statws fel teithiwr ail-ddosbarth trwsiadus: siwt a chrys, sbectol, ysgrifbin, glanhawr cetyn, clip tei aur, cês arian gyda'i lythrennau arno ac arian parod.

    Collodd Penarth ddau o'u trigolion oedd â'u bryd fywyd gwell dros y dŵr: Jim Reed, cigydd 19 oed oedd ar ei ffordd i ymuno â'i frawd yng Nghanada, ac Annie Louise Rowley Meek, 31, morwyn a oedd wedi cael addewid o swydd fel nyrs yn Efrog Newydd wedi i'w phriodas ddod i ben. Tybed a ddaeth y ddau ar draws ei gilydd ar fwrdd y llong?

    Lowe - y 'swyddog a aeth yn ôl'

    Y Cymro mwyaf adnabyddus a gysylltir â'r hanes yw'r 'dyn a aeth nôl', . Fe'i portreadwyd gan yn ffilm enwog James Cameron, Titanic, yn 1997.

    Harold Lowe o'r Bermo
    Harold Lowe

    Un o'r Bermo oedd Lowe a aeth i'r môr yn 14 oed gan ddringo drwy'r rhengoedd i ddod yn bumed swyddog ar y Titanic. Er ei fod yn forwr profiadol erbyn hynny, hon oedd ei daith gyntaf ar draws yr Iwerydd.

    Pan darodd y llong y mynydd iâ, roedd Lowe yn cysgu. Ond unwaith iddo ddeffro, aeth ati i helpu i lenwi'r badau achub gyda merched a phlant, yn ôl y drefn ar y pryd. Cymerodd reolaeth o fad achub rhif 14, a'i rwyfo i ddiogelwch, ryw 150 llath o'r llong.

    Ond yn wahanol i'r swyddogion yn y badau eraill, penderfynodd fynd nôl at y llong oedd yn suddo. Ar ôl sicrhau fod ei deithwyr yn ddiogel, arhosodd i'r sgrechfeydd ostegu cyn mentro nôl gyda gwirfoddolwyr eraill drwy'r dyfroedd oer llawn cyrff i chwilio am bobl oedd yn dal yn fyw yn y dŵr.

    Pedwar o bobl a lwyddodd i'w hachub o'r dŵr, ond ar ei ffordd tuag at ddiogelwch y Carpathia, gwelodd ddau gwch gwynt yn llawn pobl; clymodd un i'w fad a'i thywys y tu ôl iddo a throsglwyddodd 20 o bobl o'r llall i'w fad ei hun ac i ddiogelwch.

    Goroeswyr

    Rhoddodd Lowe dystiolaeth gerbron Senedd yr Unol Daleithiau yn y gwrandawiad i'r drychineb a thystiodd rai o'r teithwyr yn y gwrandawiad mai ef oedd yr unig un o'r swyddogion a aeth nôl i chwilio am oroeswyr.

    Ô±ô-²Ô´Ç»å²â²Ô

    Mewn 'stafell yn nho ei gartref ym Mhontllanffraith ger y Coed Duon yn oriau mân y bore ar Ebrill 15 1912, sylwodd ar signal gwan yr oedd yn ei dderbyn ar offer radio roedd wedi ei adeiladu ei hun.

    Neges SOS gan y Titanic oedd y signal yn dweud ei bod yn suddo. Aeth Artie yn syth i'r orsaf heddlu leol ym Mhontllanffraith ond cafodd ei wfftio gan y swyddogion yno - roedd ei honiad ei fod wedi derbyn neges "drwy'r awyr" yn anghrediniol iddyn nhw.

    Ond ddeuddydd wedyn, cyrhaeddodd y newyddion am y Titanic. Ar y pryd, roedd peirianneg radio yn dal yn ei fabandod a doedd neb yn sylweddoli y gallai signal di-wifr deithio dros bellteroedd mor fawr, dros 3000 o filltiroedd y noson honno.

    Cafodd y peiriannydd amatur argraff fawr ar Marconi a daeth i'w weld yn ei gartref a chynnig swydd iddo yn ei gwmni: aeth Artie Moore ymlaen i ddyfeisio ffurf gynnar o sonar.

      Cafodd Lowe ei groesawu fel arwr gan 1,300 o bobl leol nôl yn y Bermo a chafodd oriawr aur ganddynt am ei ddewrder.

      I'r 708 o deithwyr trydydd dosbarth, i lawr ar y deciau gwaelod lle doedd 'na ddim badau achub, doedd fawr o obaith iddyn nhw oroesi, a bu farw 530 ohonyn nhw (o'i gymharu â 124 o'r 325 o deithwyr dosbarth cyntaf).

      Yr un oedd hanes y 908 o'r criw, gyda dau draean ohonynt yn trengi; dim ond 216 oroesodd.

      Un o'r rhai ffodus hynny oedd y stiward Wilfred Foley, 26, o Abertawe a lwyddodd i ddianc ym mad achub rhif 13 a chael ei achub gan y Carpathia.

      Ond ni fu un arall o'r stiwardiaid, Owen W Samuel, 41 oed ac yn briod o Abertawe, mor lwcus. Darganfuwyd ei gorff gan y Mackay-Bennett ac fe'i claddwyd yn Novia Scotia ar 9 Mai 1912. Mae'n bosib fod Foley a Samuel yn adnabod ei gilydd gan fod y ddau wedi bod yn stiwardiaid ar yr Oceanic cyn ymuno â chriw y Titanic ar gyflog o £3 15s y mis.

      1 Mae'n debyg mai myth yw hi fod y cwmni White Star Line wedi dweud bod y Titanic yn 'ansuddadwy': y geiriau ddefnyddiwyd oedd 'practically unsinkable' a pheirianydd a ddywedodd hynny, ar ôl i'r llong suddo.

      2 Mae hyn yn cael ei gyfri'n un o'r prif resymau dros y nifer a gollodd eu bywydau yn y drychineb ond yr eironi yw fod cwmni'r White Star wedi darparu mwy o fadau achub nag oedd raid iddyn nhw yn gyfreithiol ar y pryd. Newidiwyd y rheolau wedi damwain y Titanic.


      Cestyll

      Castell Dolbadarn

      Oriel Cestyll

      Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

      Crefydd

      Delw Cristnogol mewn carreg

      Oes y Seintiau

      Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

      Mudo

      Statue of Liberty

      Dros foroedd mawr

      Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

      Symbolau Cymru

      Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

      Hunaniaeth?

      Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

      Â鶹Éç iD

      Llywio drwy’r Â鶹Éç

      Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

      Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.