Natur yr Eglwys gynnar
Am bum can mlynedd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd gan Gristnogaeth Cymru ei nodweddion arbennig ei hun. Roedd y nodweddion hynny'n gyffredin i weddill y gwledydd a oedd yn Geltaidd o ran iaith - Iwerddon, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw a'r rhan fwyaf o'r Alban - sail y gred, gyfeiliornus braidd, bod y fath beth yn bod ag 'Eglwys Geltaidd'. Y drefn yn Eglwys Rhufain oedd esgobion yn eu cadeirlannau trefol, pob un yn ben ar esgobaeth bendant ei ffiniau ac ar hierarchaeth o swyddogion. Doedd gan y gwledydd Celtaidd eu hiaith odid ddim canolfannau trefol; roedd mwy o barch tuag yr abad yn ei fynachlog (ei glas) nag i'r esgob yn ei gadeirlan, ac absennol bron oedd y fiwrocratiaeth a nodweddai'r drefn Rufeinig. Yn ôl yr hanesydd Arnold Toynbee, y traddodiad crefyddol Celtaidd oedd prif nodwedd yr hyn a alwyd ganddo yn Wareiddiad Pellafoedd Gorllewinol Ewrop.
A oedd yr Eglwysi Celtaidd yn 'Brotestannaidd'?
Pan gefnodd y Protestaniaid ar Eglwys Rufain yn yr unfed ganrif ar bymtheg, dechreuasant amgyffred am yr eglwysi cynnar yn y gwledydd Celtaidd eu hiaith fel enghreifftiau o Brotestaniaeth, yn rhydd o feiau eglwys Rhufain. Cyfeiliorni yr oeddynt. Roedd yr eglwysi hynny wedi etifeddu prif lif y ffydd Gristnogol, yn arbennig yr egwyddor mai'r offeren yw canolbwynt addoliad. Gwir nad ydoedd grym y Pab yn amlwg yn eu plith, ond i bellter daearyddol ac i'r ffaith nad oedd y syniadau am bwerau sofran y Pab wedi'u llawn datblygu, y dylid priodoli hynny.
Tarddiad Cristnogaeth gynnar Cymru
Y mae tarddiad Cristnogaeth gynnar Cymru yn bwnc o gryn ddadlau. A oedd yn ddatblygiad o'r Gristnogaeth a blannwyd ym Mhrydain yn nyddiau'r Ymerodraeth Rufeinig, neu a oes rhaid edrych i gyfeiriadau eraill? Y duedd bresennol yw credu bod Cristnogaeth wedi goroesi'r Ymerodraeth yn ne-ddwyrain Cymru, yr unig ran o orllewin Ewrop na chafodd ei goresgyn gan bobl o'r tu hwnt i ffiniau'r Ymerodraeth. Dyna gartref Dyfrig, y cyntaf o 'seintiau' Cymru. Roedd ei bencadlys yn Henllan (Hentland on Wye), sydd bellach yn Swydd Henffordd. Ni ellir pennu dyddiadau pendant yn y cyfnod hwn, ond mae'n debyg i Ddyfrig fyw rhwng 425 a 505.
Y Fynachlog yn Llanilltud Fawr
Olynydd Dyfrig fel y ffigwr amlycaf ymhlith Cristnogion Cymru oedd Illtud, sylfaenydd mynachlog Llanilltud Fawr. Gellir cyrraedd Llanilltud o'r môr, ac mae ei draddodiadau yn awgrymu dylanwad pobl oedd yn teithio moroedd y gorllewin. Hwy a gyflwynodd mynachaeth, y syniad mai'r ffordd orau o gyrraedd stad o sancteiddrwydd yw trwy ymwadu â'r byd a byw mewn cymuned sydd yn gwneud gweddi yn ganolbwynt bywyd. Roedd y fynachlog yn Llanilltud yn pwysleisio dysg yn ogystal â defosiwn. Hi oedd canolbwynt Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd eu hiaith. Hwyliodd Samson, sefydlydd mynachaeth Llydaw, o Lanilltud tua 540. Un o'i gyd-fyfyrwyr oedd Paul Aurelian, a chwaraeodd ran amlwg ym mynachaeth Cernyw, ac at Illtud a'i olynwyr y byddai Gwyddelod yn troi am arweiniad ar faterion yn ymwneud â defod a disgyblaeth.