Y Celtiaid
Mae pob tystiolaeth yn dangos bod trigolion Cymru - a thrigolion gweddill deheudir Prydain - erbyn y ganrif gyntaf OC yn siarad Brythoneg, iaith Geltaidd a berthynai'n agos i Galeg Gwlad Gâl. Roedd agweddau eraill o'r gymdeithas Frythonaidd - haenau'i dosbarthiadau, er enghraifft, a chredoau a defodau ei hoffeiriadaeth - hefyd â chysylltiad â Gwlad Gâl. Darfu i hynny, ynghyd ag arddull y gwrthrychau metel a luniwyd ym Mhrydain yr Oes Haearn, arwain at y ddamcaniaeth bod trigolion Cymru yng nghanrifoedd olaf y cyfnod cynhanesyddol yn aelodau o 'genedl' Geltaidd a drigai mewn bro eang a estynnai o Ddyffryn Afon Donaw i Sbaen.
Er nad oes unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r modd y daeth y rhan helaethaf o Brydain yn Geltaidd o ran iaith, mae'r ffaith mai felly yr oedd hi yn fater o bwys canolog yn hanes Cymru. O'r Frythoneg y tyfodd y Gymraeg, iaith a fyddai, am bymtheg canrif a mwy, yn un o elfennau diffiniol trigolion Cymru.
Y Derwyddon
O holl agweddau diwylliant Celtiaid yr Oes Haearn, yr un sydd wedi denu'r sylw mwyaf yw rôl y derwyddon. Gan nad ysgrifennent ddim am eu crefydd, rhaid dibynnu ar sylwadau'r awduron clasuron, y rheini'n chwannog i bwysleisio'r erchyll a'r bisâr. Ymddengys mai pantheistiaeth oedd hanfod crefydd y derwyddon, ac mae ambell i sylwebydd wedi gweld cysylltiadau rhyngddo a Hindŵaeth. Diau mai ymarfer defodau mewn union ffyddlondeb i draddodiad y tadau oedd y peth pwysicaf, a dichon mai ar ddysgu'r defodau y treuliai'r darpar dderwydd trwch ugain mlynedd ei brentisiaeth. Roedd aberth dynol yn rhan o'r grefydd. Wrth ddisgrifio ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn, nododd yr hanesydd Tacitus bod allorau'r derwyddon yn gyforiog o waed.