Natur y chwyldro diwydiannol yng Nghymru
Cynhyrchu nwyddau cyfalaf yn hytrach na nwyddau traul oedd arbenigedd Cymru. Ym Merthyr Tudful, cynhyrchwyd haearn yn hytrach na nwyddau wedi'u gwneud o haearn. Ni wnaeth y crefftau metel oedd mor bwysig i ffyniant Sheffield a Birmingham gydio yng Nghymru.
Nodweddwyd diwydiannau metel Cymru gan gryn ddyfeisgarwch: yn 1784 dyfeisiodd Cort system o bydlo haearn tawdd, system a oedd yn galluogi cynhyrchu mwy o haearn mewn llai o amser. Defnyddiwyd y system hon mor eang yng Nghymru fel y cafodd yr enw 'y dull Cymreig'.
O ran cynhyrchu copr, roedd y broses Gymreig yn adnabyddus fel un o'r enghreifftiau gorau o waith metel celfydd. Ystyrid y dull ffatri o gynhyrchu cotwm fel prif elfen y chwyldro diwydiannol, ond efallai fod datblygu math newydd o ynni - y peiriant ager - yn fwy arwyddocaol. Roedd Cymru yn ganolog i'r datblygiad hwnnw. Yn y Bers y cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r silindrau a ddefnyddiwyd ym mheiriannau Watt; mabwysiadwyd y ddyfais newydd yn fuan yng ngweithfeydd haearn Merthyr Tudful; yng Nghymru y bu'r arbrawf cyntaf gyda pheiriannau locomotif a chyfrannodd Cymru mewn modd anghymesur i anghenion tanwydd trafnidiaeth ager a hynny ledled y byd.
Gan i ddiwydiannu trymion ddod i ddibynnu ar lo, cafodd datblygiad ynni ager ddylanwad ar leoliad diwydiant. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd rhyw fath o weithgarwch diwydiannol ym mron pob rhan o Gymru. Ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn fwy amlwg y byddai'n talu'n well i sefydlu diwydiannau yn y meysydd glo lle'r oedd y tanwydd yn gyfleus wrth law i weithio'r peiriannau. Felly, wrth i'r chwyldro diwydiannol fynd rhagddo mewn rhannau o Gymru, chwythodd ei blwc mewn rhannau eraill.
Effaith datblygiad trafnidiaeth
Anodd oedd cyrraedd llawer o ardaloedd diwydiannol cynnar Cymru. Yr ardal fwyaf ffafriol oedd y gogledd ddwyrain, ardal agos at brysurdeb Sir Gaerhirfryn a phorthladdoedd aber Afon Dyfrdwy. Oherwydd hynny, dyma'r rhanbarth gyntaf yng Nghymru i ddod yn rhan o system gyffredinol ffyrdd y tollbyrth.
Nid mor hawdd oedd datrys problem ardal fynyddig maes glo'r de. Ar y dechrau, ceffylau a gludai'r haearn crai o Ferthyr Tudful i'r porthladd yng Nghaerdydd. Adeiladwyd ffordd i'w cysylltu yn 1767, ond y datblygiad arwyddocaol oedd y camlesi. Erbyn 1800 y roedd camlesi yn cysylltu prif gymoedd maes glo'r de â'r porthladdoedd. Roedd menter Ardalydd Bute yn creu doc carreg enfawr yng Nghaerdydd yn 1839 yn allweddol i ddatblygiad y dref.
Yn 1841 agorwyd rheilffordd Cwm Taf a cysylltai Merthyr Tudful â Chaerdydd, gan alluogi Caerdydd i ddatblygu'n borthladd allforio glo yn ogystal â haearn. Rhoddodd dyfodiad y rheilffyrdd hwb enfawr i economi'r Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol.
Natur y gymdeithas ddiwydiannol Gymreig
Maes glo'r de oedd yr unig faes glo fynyddig ym Mhrydain. Mewn rhannau eraill o Gymru hefyd - ar fryniau Sir y Fflint ac ym mynyddoedd Eryri er enghraifft - datblygodd diwydiannau ar ucheldiroedd lle na fu gynt fawr o drigolion. Felly, roedd cymunedau diwydiannol cynnar Cymru yn amddifad o draddodiadau sifig, a'r mynyddoedd o'u cwmpas a bennodd siâp y cymunedau hynny. Cymunedau ar y ffin oeddent, â'u ffyniant yn dibynnu ar fewnfudwyr. Tan o leiaf ran olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg deuai mwyafrif y mewnfudwyr o ardaloedd gwledig Cymru, gan greu gwerin drefol o Gymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd canran uchel o'r mewnfudwyr yn ddynion ifanc heb gyfrifoldebau teuluol, ffactor o bwys wrth ystyried natur ymfflamychol cymunedau diwydiannol cynnar Cymru. Bu cynnwrf droeon ym maes glo'r de - ymgyrchoedd y Teirw Scotch yn y 1820au, gwrthryfel Merthyr yn 1831, a helynt y Siartwyr yn 1839. Roedd bywyd yn ddigon bregus yn y cymunedau hyn - y peryglon dan ddaear ac yn y ffwrneisi, a'r heintiau angheuol a oedd yn berygl arbennig i blant.
Ond roedd bywyd yn yr ardaloedd gwledig mor galed nes peri i'r ardaloedd diwydiannol ddenu pobl wrth eu miloedd. Rhwng 1801 a 1841 roedd poblogaeth Sir Fynwy'n tyfu'n gyflymach na phoblogaeth yr un sir arall ym Mhrydain ac roedd Morgannwg yn y trydydd ar y rhestr.