Deddf 1536
Roedd y 1530au yn ddegawd dyngedfennol yn hanes tiriogaethau coron Lloegr. Torrodd Harri VIII a'i gynghorwr Thomas Cromwell, yn rhydd oddi wrth y Babaeth ac, o'r herwydd, cododd y posibilrwydd y byddai cymdogion Catholig teyrnas Lloegr yn bygwth ei rym. Trwy ddileu awdurdod y Pab dangosodd Harri ei fod yn benderfynol o gryfhau sofraniaeth y goron ledled ei deyrnas. Roedd ei bolisïau tuag at Gymru, yn enwedig dileu pwerau arglwyddi'r Mers, yn rhan o'r un bwriad. Pasiwyd y 'Ddeddf Uno' gyntaf - teitl a ddefnyddiwyd gyntaf yn yr ugeinfed ganrif - yn 1536. Rhannwyd y Mers yn saith sir: Dinbych, Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg a Phenfro. Daeth hyn â'r rhaniad rhwng y dywysogaeth a'r Mers i ben. Cyfraith Lloegr oedd unig gyfraith Cymru o hyn ymlaen a phenodwyd ynadon heddwch ym mhob sir i'w gweinyddu. Rhoddwyd i Gymru 26 aelod i'w chynrychioli yn y Senedd.
Yr iaith Gymraeg a Deddf 1536
Ceir tua 7,500 o eiriau yn neddf 1536, a thua 150 ohonynt yn ymwneud â'r iaith Gymraeg. Cafodd y canran bychan yma, dim ond 2% o'r holl statud, fwy o sylw na gweddill y ddeddfwriaeth. Yn ôl y ddeddf, Saesneg fyddai unig iaith y llysoedd yng Nghymru, ac ni châi unrhyw un oedd yn defnyddio'r Gymraeg swydd gyhoeddus yn nhiriogaethau brenin Lloegr. Ac eithrio de Sir Benfro, de Gŵyr, rhannau o Fro Morgannwg a rhai ardaloedd ger y ffin, y Gymraeg oedd unig iaith mwyafrif pobl Cymru. Bu felly'n amhosib gwahardd y Gymraeg yn y llysoedd, a bu'n rhaid gwneud defnydd helaeth o gyfieithwyr. O'r braidd mai amcan yr awdurdodau Seisnig oedd lladd yr iaith Gymraeg. Eu nod oedd creu system weinyddu unffurf ac ymhlyg yn hynny oedd creu yng Nghymru dosbarth llywodraethol a'i haelodau'n rhugl eu Saesneg.
Yn 1536 roedd nifer fawr o uchelwyr Cymreig eisoes yn medru'r Saesneg. Fe gynyddodd y nifer yn gyflym ar ôl hynny, ond aeth dwy ganrif heibio cyn i Saesneg ddisodli'r Gymraeg ar aelwydydd y meistri tir. Pan ddigwyddodd hyn, cafodd yr iaith ei chyfyngu i'r dosbarthiadau canol is a'r dosbarth gweithiol - datblygiad a fu'n ganolog i agwedd y cyhoedd tuag at yr iaith.
Deddf 1543
Roedd diffyg manylder yn neddf 1536 ond llenwyd y bylchau mewn deddf arall yn 1543. Yn sgil y ddeddf hon sefydlwyd y Sesiwn Fawr, trefn weinyddu barn yng Nghymru a oedd yn seiliedig ar bedair cylchdaith o dair sir: Môn, Caernarfon a Meirionydd; Fflint, Dinbych a Threfaldwyn; Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg; Aberteifi, Caerfyrddin a Penfro. Gan nad oedd Mynwy yn rhan o'r patrwm, cododd y syniad nad oedd y sir yn rhan o Gymru. Syniad cyfeiliornus ydoedd, ac yn sicr nid oedd unrhyw sail iddo wedi diddymiad y Sesiwn Fawr yn 1830. Yn yr ychydig ddeddfau penodol i Gymru a basiwyd rhwng 1536 a 1830 câi'r sir, fel rheol, ei hystyried yn rhan o Gymru. Rhoddodd deddf 1543 hefyd gydnabyddiaeth i Gyngor Cymru, corff a oedd yn meddu ar gryn bwerau gweinyddol a chyfreithiol nes y diddymwyd ef yn 1689. Yn ychwanegol, cynyddwyd nifer yr aelodau seneddol Cymreig i 27 drwy ganiatáu aelod i fwrdeistref Hwlffordd.
Y drefn newydd yn gwreiddio
Erbyn teyrnasiad Elizabeth I roedd trefn y Tuduriaid, yn gyffredinol, wedi'i derbyn yng Nghymru. Penodwyd ynadon heddwch o blith rhengoedd yr uchelwyr Cymreig. Yn ôl y sylwebydd, George Owen o'r Henllys (Sir Benfro), prif rinwedd polisi'r Tuduriaid yng Nghymru oedd bod y Cymry wedi cael ynadon o blith eu cenedl hwy eu hunain. Gan fod y boneddigion wedi'u penodi i weinyddu'r gyfraith, gorfodwyd hwy i blygu i'r drefn a chefnu ar eu traddodiadau terfysgaidd. Oherwydd eu llwyr reolaeth dros feinciau'r ynadon, cadarnhawyd grym y boneddigion dros y dosbarthiadau cymdeithasol oddi tanynt. Â Chyfraith Cymru wedi'i wahardd, ai stad y tad yn ei grynswth i feddiant y mab hynaf, ac, o ganlyniad, aeth mwy a mwy o dir yn eiddo i lai a llai o bobl. Am o leiaf y ddau gan mlynedd ganlynol, byddai'r record hanesyddol yn ymwneud yn bennaf â gweithgareddau'r tirfeddianwyr. Roeddent hwy yn frwd eu canmoliaeth i fesurau'r Tuduriaid, yn arbennig y ffaith bod y mesurau hynny wedi cael gwared ag unrhyw amwysedd ynglŷn â statws y Cymry. Yng ngolwg y gyfraith, roedd y Cymry yn Saeson. Eto i gyd, gan nad oedd bellach unrhyw fantais mewn ymffrostio yn y cyflwr o fod yn Sais, gellid dadlau bod pawb a drigai yng Nghymru o hyn allan yn Gymro, egwyddor y byddid dros y cenedlaethau yn adeiladu arni.