Cymry a'r Gemau Olympaidd: tu hwnt i'r trac athletau
topYn ogystal â'n hathletwyr, mae nifer helaeth o Gymry wedi perfformio gydag anrhydedd mewn amryw gampau yn y Gemau Olympaidd.
Nofio, rhwyfo a pholo
Cyn Gemau Olympaidd 2012, mae Cymry wedi ennill hanner cant yn union o fedalau Olympaidd - 20 o fedalau aur, 12 arian ac 18 efydd.
Ar wahân i'r stadiwm athletau, ble'r enillwyd y medalau hyn? Wel, enillwyd unarddeg ohonynt mewn cystadlaethau yn y dŵr neu ar y dŵr.
Yn y dyddiau cynnar, Paulo Radmilovic o Gaerdydd oedd y seren. Fe enillodd Paulo fedal aur yng Ngêmau Llundain, 1908, yn y ras nofio 4x200 metr dull rhydd.
Ond polo dŵr oedd ei arbenigedd, ac enillodd fedalau aur yn y gamp honno yng Ngemau 1908, 1912 a 1920. Enillwyd medalau yn y pwll Olympaidd hefyd gan ddwy ferch o Gaerdydd, sef Irene Steer a enillodd fedal aur yn y ras 4x100 metr dull rhydd yn Stockholm, 1912, a Valerie Davies a enillodd ddwy fedal efydd yng Ngemau Los Angeles, 1932.
Ym 1968, bachgen ysgol o Gaerdydd, Martyn Woodroffe, oedd yr arwr wrth iddo gipio'r fedal arian yn y ras 200 metr dull pilipala ym Mecsico. Bu'n rhaid aros wedyn tan Athen, 2004, cyn cael medal yn y pwll nofio, a'r gŵr a gipiodd y fedal efydd yn y ras 1500 metr dull rhydd oedd David Davies.
Yn Beijing, 2008, roedd David eto ymhlith y medalau wrth iddo gipio'r fedal arian mewn ras galed iawn dros 10 cilomedr mewn dŵr agored. Mae'n gobeithion yn fawr o weld David wrthi eleni eto yng Ngemau Llundain. Enillwyd saith o fedalau hyd yma mewn amrywiol gystadlaethau ar y dŵr, a daeth dwy o'r rheini yn Beijing. Enillodd Tom James aur yn y ras rwyfo i dimau o bedwar, a Tom Lucy arian yn y ras rwyfo i dimau o wyth.
Ar eu ceffyl
Saith yw cyfanswm medalau gwŷr y ceffylau, gyda Syr Harry Llewellyn yn ennill y gyntaf ohonynt, sef medal efydd, yn Llundain, 1948. Gwnaeth yn well na hynny yn Helsinki bedair blynedd yn ddiweddarach, pan enillodd fedal aur ar gefn ei geffyl enwog Foxhunter, fel rhan o dîm Prydain.
Ac yna daeth David Broome a Richard Meade i ddisgleirio - Broome yn ennill medalau yn Rhufain, 1960, (efydd) ac efydd eto ym Mecsico , a Meade yn ennill tair medal aur, un ym Mecsico a dwy ym Munich, 1972.
Edrych ymlaen at Gemau Llundain 2012
Dau enw sy'n gyfarwydd iawn i ni ym myd seiclo yw Geraint Thomas a Nicole Cooke. Yn y cystadlaethau sy'n arwain i fyny at Gemau Llundain, mae Geraint wedi profi ei fod yn un o seiclwyr gorau'r byd, ac mae disgwyl iddo wneud yn dda fel aelod o dîm Prydain. Cafodd hwyl dda arni yn Beijing a daeth oddi yno gyda medal aur tîm. Daeth Nicole hefyd o Beijing gyda medal aur, a hynny am iddi ennill y ras feicio ar y ffordd. Ychydig a glywson ni am Nicole yn ddiweddar, ond gobeithio y cawn ei gweld yn cystadlu yn Llundain.
Mae ein cystadleuwyr Paralympaidd wedi perfformio'n wych yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yng Ngemau 2004 enillwyd 27 o fedalau (12 aur, 6 arian, 9 efydd), ac yng Ngemau 2008 y cyfanswm oedd 14 medal (10 aur, 3 arian, 1 efydd).
Yn 2008 roedd 16% o dîm Paralympaidd Prydain yn Gymry, ac roedden nhw'n gyfrifol am ennill 25% o'r medalau aur. Un o'r sêr yn sicr yw'r nofiwr, David Roberts, sydd eisoes wedi ennill unarddeg o fedalau aur Paralympaidd. Roedd David wedi gobeithio ychwanegu at y cyfanswm hwn yn Llundain, ond oherwydd salwch ac anafiadau, ni fydd yn cystadlu yno.
Paralympiwr arall na fydd yn cystadlu yn Llundain yw'r seiclwr, Simon Richardson, gan iddo gael ei anafu'n ddrwg mewn damwain ffordd pan oedd allan yn ymarfer. Gwnaeth yn wych yn Beijing, gan ddychwelyd gyda dwy fedal aur ac un efydd. Ond un a fydd yn Llundain, ac yn siŵr o ddisgleirio yno, yw Ellie Simmonds, y nofwraig. Aeth i Beijing pan nad oedd ond tair ar ddeg oed, yr aelod ieuengaf o dîm Prydain, a daeth oddi yno gyda dwy fedal aur. Mae'r paratoi ar gyfer Llundain wedi mynd yn dda hyd yma i Ellie, ac rydym yn edrych ymlaen at wylio'i bwrlwm a'i brwdfrydedd unwaith eto.
Mae nifer o Gymry eisoes wedi ennill eu lle ar gyfer Gemau Llundain a'r Gemau Paralympaidd, ac mae eraill sydd o fewn cyrraedd wrthi'n gweithio'n galed i gyrraedd y safonau angenrheidiol, ac nid tasg hawdd yw honno. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu gweld yn perfformio, a dymunwn bob hwyl iddynt.
John Meurig Edwards, 2012