Cartrefi'r Celtiaid
topEwch yn ôl mewn amser i Oes yr Haearn pan oedd Celtiaid Cymru yn byw mewn bryngaearau a thai crwn. Yma cewch hanes olion Celtaidd Bryn Euryn, Caer y Tŵr a Chastell Caer Lleion.
Bryn Euryn, Mochdre
Yn wreiddiol, roedd y fryngaer hon o Oes yr Haearn yn cwmpasu dau gopa a phant ar ben bryn trawiadol sy'n amddiffynfa naturiol. Ar y copa gogleddol, sy'n uwch na'r llall, mae'r brif gaer.
Mae rhywfaint o olion o ragfuriau (waliau amddiffynnol) i'w gweld ar y safle, yn arbennig ar yr ochr ddwyreiniol. Mae amlinelliad posib adeiladau wedi eu marcio gan gerrig o fewn y gaer, gan gynnwys amlinelliad hirgrwn sydd rŵan wedi ei lenwi â llwyni. Mae cwt crwn wedi ei guddio o dan y llwyni.
Caer y Tŵr, Mynydd Caergybi
Bryngaer o Oes yr Haearn ar gopa Mynydd Caergybi ym Môn ydy Caer y Tŵr.
Oherwydd ei lleoliad naturiol ar ben y mynydd, doedd dim angen llawer mwy o amddiffynfa na hynny arni ond, er hynny, codwyd rhagfur (wal amddiffynnol) garreg fawr ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y safle - sydd yn dal i fod tua 3m o uchder mewn mannau. Mae ardal o tua 7ha o fewn waliau'r gaer.
Mae'r tir creigiog o amgylch y fynedfa yng ngogledd ddwyrain y safle hefyd yn help i'w hamddiffyn. Mae amddiffynfeydd y gaer wedi eu tynnu i lawr, o bosib gan y Rhufeiniaid a ddefnyddiodd y safle yn ddiweddarach fel gwylfan i'w rhybuddio rhag ysbeilwyr Gwyddelig o'r môr.
Byddai arwyddion semaffor (system o anfon negeseuon drwy symud breichiau neu faneri) yn cael eu hanfon o ddŵr i ddŵr nes cyrraedd canolfan y lleng Rhufeinig yng Nghaer.
Mae bôn y tŵr gwylio yn dal i'w weld heddiw. Cadw sy'n rheoli'r safle.
Castell Caer Lleion
Mae Castell Caer Lleion yn fryngaer drawiadol iawn o Oes yr Haearn. Mae wedi ei leoli mewn safle sydd o fewn cyrraedd cerddwyr ac ymwelwyr ac mae golygfeydd hynod o'r arfordir i'w gweld o'r safle.
Oherwydd ei leoliad naturiol ar gopa mynydd Conwy mae wedyn ei amddiffyn yn dda.
Gan bod ochr ogleddol y mynydd yn serth iawn nid oedd angen adeiladu unrhyw amddiffynfeydd ychwanegol. Ar ochr de-ddwyreiniol y safle mae modd gweld bwlch syml sydd yn ffurfio'r fynedfa wreiddiol.
Hyd heddiw mae modd gweld adfeilion 50 o gytiau cerrig a llwyfannau gwastad ar gyfer tai. Roedd y cytiau wedi eu lleoli tua'r de o fewn wal garreg drwchus. Roedd y gaer wedi ei lleoli yn wreiddiol ar frig greigiog y gefnen ac wedi ei hamddiffyn gan ragfur a ffos. Mae gwaith cloddio ar y safle wedi esgor ar gerrig tafl, melinau llaw a phestl a mortar carreg, ond dim y mae modd ei ddyddio.
Mae llwybr cerdded yn eich tywys i fyny'r mynydd i'r safle ond gofynnir i ymwelwyr fod yn ofalus i beidio ag amharu ar yr olion hanesyddol. Mae hi'n cymryd tua 30 munud i gyrraedd y safle ar y rhan fwyaf o'r teithiau, ond mae'n werth gwneud y daith er mwyn yr olygfa'n unig.