"Mae Prosiect Tai Crynion, neu bentref Celtaidd Melin Llynnon, wedi ei leoli ar safle'r unig felin gwynt sydd yn gweithio yng Nghymru. "Gydag arian Ewropeaidd, drwy ffynhonnell o'r enw Cyd Coed, rydym wedi cael yn agos at £250,000 er mwyn datblygu prosiect fydd yn gweld pentref Celtaidd yn cael ei adeiladu. "Byddwn yn plannu coed ac yn rheoli coedwigoedd ar draws Ynys Môn ac yn defnyddio'r coed i adeiladu pentref fel atyniad ychwanegol ar safle'r felin. "Mae'n bwysig ein bod yn tynnu ysgolion a grwpiau cymunedol a gwirfoddol i mewn fel rhan o'r prosiect. "Mae'r arian wedi cael ei roi i'r cyngor cymuned ac rydym fel cyngor sir yn gweithio efo nhw er mwyn datblygu'r prosiect. "Rydym yn dod ag ysgolion y dalgylch i mewn i helpu yn y broses o blannu'r coed a'u haddysgu ynglŷn â gweddill y prosiect. "Erbyn tua mis Hydref bydd y safle yma wedi ei orffen ac fe fydd yn atyniad ychwanegol. "O flaen y felin yn y cae bydd dau dŷ crwn yn debyg i'r arddull oedd ganddynt yn yr oes efydd neu'r oes haearn. "Bydd y pentref yn y steil hwnnw - gyda dau dŷ crwn a hen storfa rawn fel oedd ganddynt ers talwm i storio'r cnydau. "Bydd hefyd un neu ddau o gysgodleodd er mwyn cael gwneud gweithgareddau addysgiadol. "Un rhan ydi hynny ac mi fydd hi'n ddyletswydd arnom, unwaith bydd y peth wedi gorffen, i gynnal sesiynau ar y penwythnos ac i wneud defnydd o'r lle."
|