"Fy mam oedd y person olaf i fyw yn y bwthyn, ond gadawodd ym 1975 oherwydd salwch ac fe ddadfeiliodd y tÅ·.
"Y simnai oedd yr unig ran oedd yn dal yn gyfan. Roedd trawst - cilbren o long hwyliau - yn rhedeg o dalcen i dalcen yn y to.
"Ond mi bydrodd hwnnw ac i lawr ddaeth y to. Gan nad oedd neb yn byw yno, mi ddadfeiliodd yr adeilad.
"Criw o bobl leol gafodd y syniad o adfer y tÅ·, gan ddechrau drwy wneud ychydig o ymholiadau. Fe brynwyd y lle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd ddim ond eisiau'r tir.
"Felly fe aeth y criw ati i ffurfio cwmni er mwyn cael grantiau.
"Un o delerau'r grant a'r cytundebau oedd bod pobl ifanc yn dysgu'r hen grefftau ac mae'r bwthyn wedi ei adeiladu yn unol â'r hen ffordd.
"Tyllwyd am glai o gae cyfagos i ddal y waliau at ei gilydd yn lle defnyddio mortar neu goncrid.
"Y to gwellt ydi'r unig un yn Sir Fôn. Dwi ddim yn gwybod pa mor bell sydd raid mynd i ganfod un arall. Dwi'n gwybod bod rhai yn y de, yn Iwerddon ac ar Ynys Manaw.
"Roedd bywyd yno yn syml - heb ddŵr, heb fath na thoiled ond roedd gennym drydan.
"Roedd mam yn gorfod codi'n fore i lanhau'r grât, codi lludw a berwi'r tegell cyn gwneud brecwast.
"Rydym wedi ceisio gwneud y tu mewn yn debyg i fel oedd hi yn 20au'r ganrif ddiwethaf gyda hen ddodrefn.
"Mae'n deimlad od mynd i mewn i'r lle rŵan - dwi'n disgwyl gweld yr hen deulu yno.
"Mae yna lawer o ddiddordeb yn y lle gyda grwpiau ysgol, Merched y Wawr a'r WI yn ymweld.
"Ar hyn o bryd rydym yn ceisio gwella'r lle ac rydym yn bwriadu cael tywysydd sain a fydd yn arwain pobl o gwmpas y tÅ·.
"Mae'n gyfle i bobl weld sut oedd bywyd ganrif yn ôl." Mae'r bwthyn ger Porth Swtan, Rhydwyn ar agor ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, 12.00 - 16.30. Ffoniwch 01407 730501 am fanylion. Mae'n cael ei redeg gan Gyfeillion Swtan ac mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
|