"Cafodd y safle archaeolegol yma ei ddarganfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithwyr yn adeiladu gwersyll a maes awyr yno ond y broblem oedd bod cymaint o dywod. Felly fe wnaethon nhw drïo codi mawn o'r pyllau dŵr cyfagos i'w roi dros y tywod i'w stopio rhag chwythu i mewn i injan yr awyrennau. Wrth wneud hynny y daethant ar draws casgliad o tua 150 darnau er nad oedd yn amlwg yn syth beth oedd eu harwyddocâd.
"Daeth Syr Cyril Fox i fyny o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a datgan mai casgliad o wrthrychau o ddiwedd Oes yr Haearn oeddent, yn cynrychioli rhyw fath o offrwm crefyddol o gyfnod tua 2000 o flyndydoedd yn ôl. Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn credu'n gryf yn nuwiau'r byd naturiol, ac felly yn lluchio pethau i mewn i'r dŵr fel offrwm iddynt.
"Mae rhan helaeth o'r casgliad yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ond mae gennym ni gysylltiadau da efo nhw ac mae peth o'r casgliad yn dod i fyny i Oriel Môn ar adegau i bobl leol gael bwrw golwg arnyn nhw. Mae ganddon ni hefyd gasgliad o bethau na aeth i lawr i Gaerdydd yn y pedwardegau o gwbl ac sydd yma'n barhaol.
"Mae gennym ni yma ddarn o waywffon, darn o fetel a fuasai wedi bod yn rhan o system olwyn cerbyd rhyfel (chariot), a genfa neu haearn ffrwyn (bit) ceffyl.
"Nid oedd y Celtiaid yn taflu pethau bob dydd i mewn i'r dŵr - doedd metal ddim mor gyffredin â hynny ac felly mae'r ffaith eu bod yn fodlon colli'r gwrthrychau yma am byth yn arwydd o bwysigrwydd eu crefydd iddynt. Roeddent yn gwneud eu gorau i blesio'r duwiau.
"Roedd hyn wedi digwydd dros gyfnod o amser achos roedd creiriau yn y llyn sy'n ymddangos yn eithaf cynnar yn Oes yr Haearn, a rhai eraill o gyfnod ychydig mwy diweddar.
"Mae'n edrych yn debyg hefyd fod rhyw fath o blatfform wedi ymestyn allan i'r llyn, ac efallai ei fod yn rhan o'r traddodiad crefyddol i gerdded mewn prosesiwn allan dros y llyn, sy'n rhoi rhyw urddas i'r achlysur, ond allwn ni fyth fod y siŵr wrth gwrs."
Mwy am safle Llyn Cerrig Bach
|