Mr Owen
"Roeddwn yn gweithio ar y tir yn codi bwyd yn Eglwys Bach yn ystod y rhyfel.
Roedd yn adeg prysur iawn - pawb yn troi gan ddefnyddio'r ceffylau a hynny'n job arw, yn wahanol i rŵan.
Mi ddaru rhai o'r bomiau ddisgyn ryw dair milltir o Eglwys Bach - alla i ddim dweud pam, ond dwi'n cofio tri twll mawr, mwy na'r stafell 'ma.
Dwi hefyd yn cofio'r land girls wrth gwrs. Roedden nhw'n byw mewn hostel yn Bodnant. Genod o'r trefi mawr yn Lloegr oedden nhw, ond mi oedden nhw'n dŵad i arfer efo ni, arfer efo hel tatws, cario'r ŷd, er, doedden nhw ddim yn gwybod lot i gychwyn. Ond ddaru nhw ddŵad i fedru gweithio'n dda - fysen ni byth wedi codi bwyd hebddyn nhw.
Ond roedd na'n dal rations. Dwi'n cofio rhai yn dod i fyny o'r trefi, eisiau rhywbeth i'w fwyta. Un stori dwi'n ei chofio ydy Sais yn dod i holi am ŵyau i'r ffermydd. Dyma geiliog yn croesi'r hewl, fel 'na, a dyma fo'n gofyn i ni wasgu'r ceiliog i gael wŷ i'w ginio - mae hynny'n ffaith! Doedden ni ddim yn cael rhoi wyau wrth gwrs, er roedden ni'n medru rhoi rhyw gwningen bach weithiau.
Roeddwn i yn yr Home Guard. Mi fydden ni'n cael ein dysgu sut i saethu, wedyn cael ein gyrru i ryw hen le i wylio allan am y Germans ond ddaethon nhw ddim."
Mrs Owen
"Roeddwn i yn dod o Wytherin ac mi adewais yr ysgol y flwyddyn wnaeth y rhyfel dorri - dwi'n cofio awyrenau'r Germans yn croesi dros y fferm ar eu ffordd i Lerpwl - roedden ni'n gallu dallt y gwahaniaeth rhwng eu sŵn nhw a'r RAF.
Roedden ni hefyd yn gallu clywed y gynnau'n saethu yn Lerpwl a byddai ein tÅ· yn ysgwyd weithiau efo'r bomio draw fanno.
Ddaru nhw ollwng bom ar y mynydd tu draw i ni unwaith ym mis Awst, er 'dwi ddim yn cofio pa flwyddyn. Mi ddaru cannoedd o bobl gerdded i fyny i weld yr olew a'r tameidiau o fomiau dros y mynydd. Wedyn yn y gaeaf, mi ddaethon nhw nôl o gollwng 'chwaneg yn yr un fan yn union - maen nhw'n dweud fod 'na ryw air pocket yna, a bod yn rhaid i'r bomwyr wagio eu llwyth neu ddod lawr.
Roedd 'na blackout hefyd wrth gwrs. Roedd yn rhaid i ni guddio hanner golau'r beic gyda phapur llwyd.
Doedd o ddim yn bosib i weld dim ar y fferm chwaith, yn enwedig yn y gaeaf. Doedd na ddim letric yr adeg honno ac roedd yn beryg mynd allan efo lamp i weld yr anifeiliaid gyda'r nos."