Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dylan Davenport a'i neidr - llun gan Axle Barlow Antur yr Aesculapian
Wyddech chi fod nadroedd estron yn byw yn wyllt ym Mae Colwyn? Un sy'n gwirioni ar nadroedd o bob math ydy Dylan Davenport sy'n gwybod popeth sydd i'w wybod am y mewnlifiad o ymlusgiaid.

"Dwi wastad wedi bod â diddordeb mawr mewn nadroedd ers pan oeddwn yn hogyn bach. Es i goleg Glynllifon i astudio gofal anifeiliaid cyn dod i Fangor i wneud gradd mewn söoleg a chadwraeth.

Roeddwn wedi clywed flynyddoedd yn ôl am y nadroedd Aesculapian oedd wedi dianc o Sŵ Mynydd Colwyn yn y '60au. Rŵan, dwi'n ceisio darganfod faint sydd ar ôl, ac i ble maent wedi ymestyn ar gyfer prosiect i fy ngradd. Dwi wedi cael lluniau o 26 fy hun yn barod.

I wybod fy mod wedi cael lluniau o nadroedd gwahanol, dwi'n llungopïo delwedd o gennau'r bol (scales) a hefyd o'r pen. Fel ein fingerprints ni, mae cen pob neidr yn wahanol ac felly trwy gymharu lluniau dwi'n gallu dweud sawl unigolyn sydd gen i.

Nid yw'r nadroedd yma yn wenwynig, maen nhw'n hollol ddiniwed. Mae'r Aesculapian yn frown ran fwyaf, efo smotiau gwyn. Gallwch ddweud y gwahaniaeth rhyngddynt a nadroedd eraill yr ardal oherwydd eu lliw. Mae gan yr wiber batrwm sig-sag ar ei gefn ac mae neidr y glaswellt yn wyrdd efo coler melyn.

Daw'r Aesculapian o'r Eidal yn wreiddiol ac maen nhw i'w canfod ar hyd a lled Ewrop. Roedd y Rhufeiniaid yn credu mai earthly representation o Aesculapius, duw iacháu oedd y nadroedd yma.

Neidr Aesculapian - llun gan Axle Barlow Sylwch ar gefn ambiwlans, yn enwedig yn America neu Ewrop, mae symbol o neidr yn dringo ffon arnynt, i ddynodi cred y Rhufeiniaid.

Maen nhw'n hoffi byw ar ochr coedwigoedd, wrth ymyl waliau cerrig sych neu ddol agored, rhywle sy' heb gael ei ddinistrio. Er mae'n hollol bosib eu darganfod mewn gerddi tai.

Mae 'na lot o sôn bod y nadroedd yma yn bodoli yn yr ardal, yn enwedig o amgylch Colwyn Uchaf, ond does dim llawer o dystiolaeth bendant ynglŷn â sawl un sydd yna.

Byddaf yn hel gwybodaeth tan yr hydref, pan fydd y nadroedd yn mynd i aeafgysgu. Dwi'n gobeithio y bydd rhywun arall yn parhau efo'r gwaith ar ôl i mi orffen fy mhrosiect a fy nghwrs.

Yn ogystal â'r wiber a'r neidr glaswellt, mae'r fadfall gyffredin a'r neidr ddefaid (slow worm) yn gynhenid i'r ardal yma. Mae'n anghyfreithlon achosi unrhyw niwed iddyn nhw neu eu cynefin.

Dwi'n gobeithio cael gwaith cadwraeth dros ymlusgiaid Prydeinig yn yr ardal yma, ond does 'na ddim swydd o'r fath yn bodoli ar y funud.

Mae gen i ddeg neidr adref, peithoniaid a nadroedd gwasgu (boa constrictor) rhan fwyaf. Ond fy nghyngor i am gadw nadroedd fel anifeiliaid anwes ydy peidiwch. Dydyn nhw ddim yn bethau hawdd i'w cadw, maen nhw'n dipyn o 'gomitment'. Mi allan nhw fyw am hyd at 50 mlynedd ac maen nhw'n gostus iawn.

Mae 'na ddigon o wybodaeth ar gael am sut i edrych ar ôl un os ydych am gadw un adref ond peidiwch â gwneud os nad oes gennych chi wir ddiddordeb."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý