麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Marchogion Ardudwy Marchogion Ardudwy
Fyddech chi'n hoffi mynd yn 么l 800 mlynedd i fyw bywyd fel marchog ac ymladd efo cleddyf? Dyna'n union beth mae Adrian Edwards o Ddyffryn Ardudwy yn ei wneud bob penwythnos.

"Marchogion Ardudwy ydy ein henwau, yr unig gr诺p o'r fath yn y Gymraeg.

'Da ni'n ail-greu pethau yn ystod yr haf fel arfer, yn y cestyll neu'r sioeau mwyaf, i agor llygaid pobl i sut roedd bywyd yn arfer bod. 'Da ni'n ail-greu'r cyfnod rhwng tua 1272 a 1350, adeg Edward y Cyntaf hyd at cyfnod Owain Glynd诺r.

'Da ni'n gwneud y gwisgoedd ein hunain, gan gynnwys chainmail yr arfwisg. Mae bois lleol, fel Iestyn Jones o Llanbedr, sy'n foi galluog ofnadwy, yn creu ac yn trwsio'r arfau i ni. Mae'n bosib prynu'r pethau yma, ond 'da ni'n tr茂o cadw pethau'n lleol neu ei wneud ein hunain.

Wrth ymchwilio i'r cyfnod yma, mi es i wylio gr诺p yng Nghastell Mynach tua pymtheg mlynedd yn 么l i weld sut roedden nhw'n gwneud pethau. 'Da ni hefyd yn edrych ar lyfrau ac ar y we.

Marchog ydw i heddiw, gyda chainmail ar fy mreichiau, arfwisg ar fy nghoesau a helmet ar fy mhen.

Mae 'na lot o grwpiau yn dilyn choreography wedi ei ymarfer ymlaen llaw wrth ymladd ond 'da ni'n ei wneud o fel byddai pobl yr adeg honno. 'Da ni'n ymarfer am fisoedd yn y gaeaf, yn dysgu sut i ymladd yn iawn. Mae o fel bocsio - 'da chi'n gorfod edrych be' mae'r boi arall yn ei wneud a cheisio ei stopio rhag eich taro chi. 'Da ni'n defnyddio tariannau, bwyeill, cleddyfau a flail. Ar 么l ychydig, 'da chi'n ffeindio allan pa arf sy'n gweithio orau ar pwy!

Dwi'n hoffi ymladd efo dau gleddyf yn y ddau llaw. Oce, does ganddoch chi ddim cymaint o amddiffyniad a rhaid bod yn gyflymach na'r arfer ond mae o'n sialens. 'Da chi'n cael rhyw friw bach weithiau, ond mae'r arfwisg yma wedi ei wneud o ddur.

Ond gan mai dim ond un pen ac un set o ddwylo sydd gennych, rhaid cadw'r rheiny yn saff a defnyddio eich synnwyr cyffredin.

Y rheol gyntaf ydy dim cyffuriau nac alcohol yn agos i'r lle, dim hyd yn oed y diwrnod cynt. Rhaid gwybod wrth chwifio rhywbeth fel y cleddyf yma dros eich pen fod pawb o gwmpas eu pethau.

Marchogion Ardudwy yn ymladd

Mae 'na bedwar ohonom yn ymladd yn y gr诺p a thri arall yn gwneud y gwaith saethyddiaeth. Mae Benji'n dod 芒'r adar ysglyfaethus hefyd i dangos i bobl sut roedden nhw'n arfer hela - elfen arall o fywyd canoloesol.

Mae ganddon ni i gyd enwau canoloesol hefyd. Fi ydy Edward o Ardudwy, Dafydd yw Iorwerth o M么n, Benji yw Geraint o Ben Ll欧n a Tomos yw Tomos De Veil, am mai fo ydy'r marchog Ffrengig. Mae'r tri arall ohonon ni yn rhai Cymraeg ac felly dan ni'n cael bantro mewn sioeu, a chreu esgus i gael ffeit!

Cyn-blismon ydy ein dyfarnwr ni, James 'De Stanerton'. Mae o wedi bod yn gwneud hyn ers ryw 30 mlynedd felly 'da ni'n cael lot o gymorth a chyngor ganddo fo ac mae o'n cadw trefn ar bawb.

'Da ni'n gwneud popeth am ddim. Mae Benji a'i fab, Dafydd, yn gweithio efo'r adar ysglyfaethus, dwi'n gyrru lori ac mae Tomos yn gweithio efo cyfrifiaduron. Ar ddiwedd y flwyddyn, ar 么l talu'r insiwrans a rhoi arian i elusennau lleol 'da ni'n cael gwledd mawr i bawb sydd wedi cymryd rhan. 'Da ni'n trio cadw pethau mor draddodiadol ag sy'n bosib, fel yfed medd! Ond mae'n eich gwneud yn chwil braidd.

Ond os oes gennych ddiddordeb mewn hanes a'ch bod ychydig yn nuts fel ni, dyma'r job i chi! 'Da ni'n mwynhau dangos i bobl sut roedd bywyd flynyddoedd yn 么l."

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy