Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pobl ifanc yn sglefrfyrddio Gawn ni barc?
Mae Alex a Robert o Ysgol Friars eisiau lle i sglefrfyrddio ym Methesda er mwyn osgoi'r rhyfel rhwng y townies a'r sglefrwyr:

"You startin'?"

Dwi'n brifo lot wrth sglefyrddio ar y stryd achos mae yna dyllau yn y llawr a gwydr hefyd. Mi faswn i'n hoffi parc sglefyrddio ym Mangor neu Bethesda, sef lle dwi'n byw. Y parc sglefyrddio gorau o gwmpas y lle ydy parc Caernarfon. Hefyd problem arall yw y rhyfel rhwng y townies a'r skaters.

Townies ydi'r rhai sy'n hoffi fandaleiddio'r parciau sglefyrddio a taro skaters.

Dwi wedi cael fy nharo o'r blaen gan townies am fod yn 'ddigywilydd'. Pan rydych chi'n cerdded neu sglefyrddio o gwmpas rhywun fel townie maen nhw'n dweud "you startin?" ac mi fasach chi yn deud, fel rhywun call, "no" neu "na", ond mae townies yn dweud "don't be cockey" ac yn eich hitio chi.

Mae yna mwy townies na skaters ym Methesda a dyna pam dydan ni ddim yn cael parc sglefyrddio. Dwi'n meddwl y basai'r heddlu yn gallu gwneud rhywbeth amdano. Mae gan bob tref arall un ond dim Bethesda. CYNGOR GWYNEDD, ADEILADWCH BARC SGLEFYRDDIO I NI!!!!!
Alex

'Does dim byd i'w wneud...

Byddai yn well os basai 'na barc sglefrfyrddio ym Methesda oherwydd mae pawb yn cwyno wrth yr heddlu am y sŵn ond os buasai parc sglefrfyrddio yma byddai neb yn cwyno a byddai'n saff i'r plant.

Mae llawer o lefydd i wneud parc sglefrfyrddio er enghraifft Pant Dreiniog, Parc Meurig.

Buaswn wrth fy modd yn cael parc sglefrfyrddio ym Methesda.

Byddai'n llawer gwell i'r bobl sâl a phobl hen ac yn hwyl fawr i'r plant.

Pe baen ni'n cael un buaswn i yn adeiladu un gyda'r plant ym Methesda.

Does dim byd i'w wneud ym Methesda. Os buasai na barc sglefrfyrddio ym Methesda byddai'n rhaid cael caffi bach ar gyfer bwyd a diod - un rhan i'r bobl ifanc a rhan arall mwy ffurfiol ar gyfer rhieni'r plant sy'n eu dangos yno neu'n dod i'w gwylio.

Byddai gofyn cael ffenest yn edrych dros y parc sglefrfyrddio.
Robert


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý