|
|
|
Maesgeirchen Kayleigh a Ffion o Ysgol Friars sy'n pwyso a mesur be sydd gan Maesgeirchen i'w gynnig i bobl ifanc: |
|
|
|
Yn fy marn i rydw i'n meddwl bod Maesgeirchen yn ddiflas oherwydd does yna ddim byd i'w wneud yna. Er enghraifft, mae gennym dri parc ond maen nhw i blant bach yn unig. Does yna ddim byd i blant mwy i wneud yna. Y pethau sydd yna yw: Siop da-daSiop sglodionSwyddfa postSiop torri gwalltSiop golchi dilladClwb cymdeithasol MaesgeirchenYsgol GlanceginTŷ Cegin (Healthy Living Centre)Clwb IeuenctidDydi'r clwb ieuenctid ddim ond yn agor dwy noson yr wythnos! Felly be sydd yn Maesgeirchen i blant dros 10 oed? Mae yna lawer o le gwag yn Maesgeirchen i roi pethau diddorol. Y pethau rydan ni eisiau iddyn nhw eu rhoi yma ydy pethau fel canolfan chwaraeon, lle i fynd i lafnrholio neu barc sglefrfyrddio i'r bechgyn. Mae'r bechgyn yn mynd i'r cwrt tennis i gael gêm o bêl-droed drwy'r amser. Os ydyn ni yn cael gweithgareddau genod a chael chwarae yn y cwrt tennis bydd yr hogiau yn dod i'n gwylio ni! Yn yr haf mae Tŷ Cegin yn mynd â phlant o dan 12 oed am dripiau. O'r blaen roeddwn i'n mynd ond rŵan rydw i'n rhy fawr i fynd erbyn hyn. Mae Tŷ Cegin yn gwneud gwahanol weithgareddau yn Maesgeirchen a tu allan i Maesgeirchen. Felly yn yr haf does yna ddim byd i'w wneud dim ond mynd i'r dref, sinema neu mynd i nofio! Gawn ni rhywbeth arall i'r plant mwy ei wneud yn yr haf ac yn y gaeaf???
|
|
|
|
|
|