Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clawr llyfr The Truth Cookie The Truth Cookie
Mae Lara a Lydia o Ysgol Friars yn rhoi marciau allan o ddeg i'r llyfr The Truth Cookie, nofel i blant rhwng 8 a 12 oed:
Enw'r llyfr: The Truth Cookie
Awdur: Fiona Dunbar
Pris: £4.99
ISBN: 1843625490

Cymeriadau: Lulu, Mike - tad, Varaminta - llysfam, Torquil - llysfrawd, Aileen - glanhawr a ffrind, Frenchie - ffrind gorau Lulu, Cassandra, Mr Otto a Poochie - ci Varaminta.

Stori: Mae gan dad Lulu Baker gariad newydd, Varaminta Le Bone. Mae hi'n ddynes brydferth, ond pan dydi Dad ddim yna, mae hi'n wenwyn pur. Sut gall Lulu fyw efo Torquil, ei llysfrawd slei? A sut gall hi ddangos i Dad pwy ydi Varaminta go iawn? Efallai gwneith llyfr cyfarwyddyd rhyfedd a defnyddiau anarferol wneud y tric ...

Hoffi/casáu pam?
Lara: Yn fy marn i, roedd y llyfr yn grêt! Roedd yn ddoniol, a chyffrous, roedd pob cymeriad yn ddiddorol mewn ffordd wahanol. Doeddwn i ddim yn gallu rhoi'r llyfr i lawr!

Lydia: Roeddwn i yn hoffi y llyfr yma oherwydd roedd y stori yn wreiddiol ac yn ddoniol. Roedd gan y cymeriadau enwau rhyfedd ac roedd hynny yn gwneud y llyfr yn fwy diddorol.

Hoff ddarn:
Lara: Fy hoff ddarn oedd pan daeth Varaminta a Lulu i'r parlwr pincio ar ben-blwydd Lulu, a doedd hi ddim eisiau mynd. Felly cnociodd drosodd dwb o gwyr a rhedodd i ffwrdd allan o'r siop. Roedd pawb arall yn sownd yn y parlwr - doedden nhw ddim eisiau llosgi eu traed ar y cwyr poeth!

Lydia: Fy hoff ddarn yn y llyfr hwn ydy pan mae Torquil yn bwyta un o'r truth cookies ac yn dweud y gwir am beth mae o wedi ei wneud yn ddrwg. Rydw i hefyd yn hoffi'r darn pan mae Lulu yn gwneud bisgedi.

Marc allan o ddeg?
Lara: Rydw i'n rhoi 9 allan o 10 i'r llyfr. Roedd yn llyfr eithaf byr, sydd yn siomedig. Hoffwn i ei fwynhau am hirach.

Lydia: Faswn i yn rhoi 7 allan o 10 i'r llyfr yma.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý