Mae na lot o bethau i'w gwneud ym Mharc Llanfairpwll, ond i ddweud y gwir mae o'n dipyn bach o tip! Y cae pêl-droed Mae clwb pêl-droed Llanfair yn trïo ac yn gwneud job dda i wella y cae. Maen nhw wrthi yn adeiladu pitch five aside newydd ar ôl i'r hen un gael ei falu. A nawr mae pobl wedi malu y ffens i adael y pobl allan o'r lle maen nhw'n adeiladu! Y ffrâm ddringo Dydi'r ffrâm ddringo ddim yn brilliant ond mae wedi cael lot o graffiti arno fo. Mae na bont rhaffau ond mae na ddarn wedi torri. Ffrâm ddringo bychan Mae'r ffrâm ddringo fychan yn hyll ac mae o'n dda i blant ond mae o wedi cael ei baentio efo graffiti. Stand y crowd Mae y stand y crowd yn iawn ond dydi'r bobl yna ddim, maen nhw'n gwneud llanast efo caniau cwrw a sigaréts. Llefydd gwag Yn y lle gwag cyntaf mae na lot o le sydd wedi cael ei wastraffu. Gallech chi adeiladu parc sglefyrddio da iawn. Mae'r ail le gwag wedi cael ei wastraffu hefyd a gallech chi adeiladu dau gwrt tennis yma.
|