Gala Opera 06 Y soprano Angela Gheorghiu a'r tenor Rolando Villazón oedd yn ymuno â Bryn Terfel ar lwyfan Gala Opera 2006. Dyma rai o'r opera-garwyr fu'n mwynhau ar nos Sadwrn yr ŵyl.
"Rydw i yma yn gweithio i'r ŵyl ond wedi dod i weld Bryn heno hefyd. Doeddwn i ddim yn poeni gymaint am Westlife neithiwr - mi wnes i adael cyn iddyn nhw gychwyn. Mae'r lleoliad yn fendigedig - mae 'na olygfa hyfryd dros Eryri."