Dilynwyr Dame Shirley Denodd Dame Shirley Bassey, y gantores chwedlonol o Tiger Bay, Caerdydd, bron i 10,000 o bobl i'w chyngerdd yng Ngŵyl y Faenol 2006. Fe fuon ni'n sgwrsio â rhai ohonyn nhw.
Catrin Lloyd Cowell a Shirley Charlton (dde) o Fiwmares.
Shirley: "Dwi'n ffan mawr o Shirley ers pan oeddwn i'n hogan fach. Mi ges i fy enwi ar ei hôl hi gan fod mam yn ffan enfawr hefyd.
"Dwi erioed wedi ei gweld hi'n canu fyw o'r blaen gan fy mod yn brysur iawn yn gweithio, felly roeddwn yn andros o hapus i ddarganfod ei bod am berfformio mor agos.
"'Da ni wedi bod i'r Faenol sawl gwaith ond y tro 'ma rydyn ni'n mynd amdani go iawn. Mae ganddon ni salad, cyw iâr, cig eidion, king prawns, smoked salmon - a gwin wrth gwrs! Dwi wir yn edrych ymlaen, yn enwedig at Big Spender."