麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hen goron o Eisteddfod M么n Hanes Eisteddfod M么n
Penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol M么n yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Llanrhuddlad 1906.
  • Cliciwch yma i weld rhai lluniau o arddangosfa'r canmlwyddiant
  • Prif dudalen yr Eisteddfod
  • Y nod oedd trefnu eisteddfod fyddai'n dod 芒 holl gymunedau'r ynys at ei gilydd, gan symud i wahanol dref neu bentref bob blwyddyn, ac a fyddai'n 'drwyadl Gymreig' o ran cymeriad.

    Llun o seremoni gyhoeddi Bae Cemaes 1933 Ac felly y cynhaliwyd eisteddfod gyntaf y gymdeithas yng Nghaergybi yn 1907 gan ddechrau ar draddodiad mwy neu lai ddi-dor dros y blynyddoedd.

    Rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf stop ar yr 诺yl oedd i fod i'w chynnal yn Rhosneigr yn 1915. Ond cafodd yr 诺yl adfywiad yn Llannerch-y-medd yn 1920 lle sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys M么n am y tro cyntaf.

    Parhaodd yr eisteddfod drwy'r Ail Ryfel Byd ond penderfynodd y Gymdeithas drefnu chwech eisteddfod undydd yn Neuadd y Dref Llangefni rhwng 1940 i 1945 a chytunodd pawb oedd yn gysylltiedig 芒'r eisteddfodau gynnig eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn ysgafnhau'r baich ariannol.

    Dathlodd yr eisteddfod ei jiwbil卯 yn 1957 a chyhoeddodd W.H. Rogers, dirprwy brifathro Ysgol y Sir, Caergybi, lyfryn o'r enw Hanes Sefydlu Eisteddfod a Gadeiriol M么n. Ynddo, mae'n dweud:

    Panel o arddangosfa Oriel Ynys M么n "Nid oes Sir arall, hyd y gwyddom, a chanddi Eisteddfod a Chymdeithas a ddaliodd yn fyw a llewyrchus gyhyd. Beth sy'n cyfrif am ei llwyddiant? Nodwedd ddaearyddol yr ynys i raddau hwyrach; y mae hi'n gryno ac yn hawdd i'w thramwyo. Ond pwysicach o lawer na hynny yw ysbryd ffeind a haelionus ei thrigolion a'r gwerth a r么nt ar ddiwylliant (nid yr uchelael) mewn cerddoriaeth, ll锚n a chelfyddyd."

    Dros y blynyddoedd, bu rhai eisteddfodau yn fwy llwyddiannus nac eraill ond yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974 rhoddwyd yr Eisteddfod ar dir ariannol cadarnach pan gafodd nawdd gan Gyngor Bwrdeistref Ynys M么n, ar yr amod ei bod yn eisteddfod symudol sy'n cael ei gwahodd i wahanol ardaloedd o'r ynys.

    Mae patrwm yr Eisteddfod erbyn hyn yn ymdebygu i drefn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Gorsedd y Beirdd, seremon茂au cadeirio a choroni, g诺yl ddrama a g诺yl offerynnol ac arddangosfa gelf a chrefft ynghlwm 芒 hi.

    Cadair M么n 1923 Wrth baratoi at Eisteddfod y canmlwyddiant ym Modffordd 2007, dywedodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes, deilydd portffolio dros yr Iaith Gymraeg y Cyngor: "Mae Eisteddfod M么n yn rhan hanfodol o ddiwylliant, treftadaeth a'r Iaith Gymraeg ar yr Ynys."

    "Mae cenedlaethau o Gymry ifanc o'n cymdeithasau wedi cymryd rhan yn yr wyl a mwynhau'n fawr dros y blynyddoedd.

    "Mae'r canmlwyddiant yn achlysur hanesyddol y dylid ei ddathlu, a roedd y Pwyllgor Gwaith yn falch o allu cefnogi'r paratoadau yma," meddai.

    Roedd cyngerdd ym mhafiliwn Sioe M么n fis Mai 2006 yn rhan o ddathliadau'r canmlwyddiant. Yn cymryd rhan roedd rhai o dalentau cerddorol amlycaf yr ynys: Sara Mai a'r Moniars, Elin Fflur a'r Band, Mojo, Rafters, Meinir Gwilym, 4 yn y Bar, Broc M么r, M么n Heli ac Unsain.

    Gyda diolch i arddangosfa Hanes yr Eisteddfod yn Ystod y Ganrif yn Oriel M么n am ran helaeth o'r hanes yma.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy