Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Kris Hughes Bywyd gwrach
"Fe wnes i astudio i fod yn weinidog Cristnogol a dod allan yn wrach". Hanes Kris Hughes o Landdeusant.
"Mae 'na sawl traddodiad o fewn Paganiaeth - dewiniaeth, sef wikka, derwyddiaeth a doethgrefft, sef witchcraft.

"Mi fydda i'n ymarfer derwyddiaeth a doethgrefft, ond dim dewiniaeth.

"Fe wnes i astudio i fod yn weinidog Cristnogol a dod allan yn wrach! Roeddwn yn wyddonydd ac yn rhy ddadansoddol a dydi Cristnogaeth ddim yn hoffi pobl ddadansoddol. Mi wnes i ddarganfod fod defodau Cristnogaeth i gyd wedi eu hysbrydoli gan Baganiaeth - doedd yna ddim byd yn unigryw.

"Does gan y rhan fwyaf o Gymry ddim syniad am ein traddodiad Paganaidd - llenyddiaeth a thraddodiadau Cymreig sydd wedi ysbrydoli Paganiaeth dros y byd.

"Mae gwaith archeolegol ar leoliadau o'r Oes Haearn, er enghraifft yn Llyn Cerrig Bach, wedi darganfod fod aberthiadau wedi cael eu taflu i'r llyn yn ôl hen draddodiad y derwyddon. Hefyd, mae llenyddiaeth o'r cyfnod rhwng y chweched a'r unfed-ganrif-ar-ddeg, fel Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, gwaith Iolo Morgannwg a llyfr Taliesin yn sôn am ddoethineb traddodiadol a hudoliaeth yr hen Gymry, ein cyndadau.

"Rydan ni hefyd wedi dysgu oddi wrth ysgrifau clasurol gan Rufeinwyr y cyfnod fel Agricola. Aethant ati i ddinistrio'r gymdeithas dderwyddol oedd yn rheoli Prydain ar y pryd ond dwi'n meddwl eu bod yn eu hedmygu mewn ffordd ac fe wnaethon nhw gofnodi rhai o'u traddodiadau.

"Doedd y derwyddon ddim yn addoli natur, ond yn gweithio law yn llaw gydag egni naturiol y byd naturiol, ac yn gweld yr egni yma yn symud trwy droad y flwyddyn.

"Does gennym ni fel Paganiaid ddim duw, y gred baganaidd yw mewn imminent deity - lle mae beth fyddech chi'n hoffi ei alw'n dduw yn rhan ohonom. Fedrwch chi ddim addoli beth ydych chi'n barod. Mae 'duw' y tu mewn i bob dim sy'n byw ar y ddaear - pob deilen, llyn, darn o ddŵr, yr hanfod cyfan.

"Gan nad oes gennym ni ysgolion, athrawon na llyfr fel y Beibl, does neb i ddweud beth sy'n gywir ac yn anghywir. Mae i gyd yn ymwneud â'ch 'awen' chi, sef yr enaid.

"Awen yw'r ysbryd sydd yn eich ysbrydoli trwy gelf, cerdd, barddoniaeth, a'r hynny sydd yn mynegi eich cysylltiad chi gyda phob dim sydd yn y byd. Yr unig ffordd i'w fynegi yw drwy fod yn greadigol, fel yr Eisteddfod, er nad ydym fel derwyddon yn cysylltu ein hunain â'r Eisteddfod Genedlaethol lle maent yn ymarfer arferion paganaidd o dan ymbarél Cristnogaeth - mae'n reit ddoniol eu gweld yn gwisgo ar gyfer defodau paganaidd heb ddeall beth mae'n ei olygu. Mae yna eisteddfod i dderwyddon Prydain bob mis Gorffennaf yn Dingestow, Sir Fynwy lle rydym yn cyfarfod i ddathlu am wythnos.

"Mae 'na lwyth o lefydd yng ngogledd orllewin Cymru sy'n bwysig i ni. Mae Bryn Celli Ddu a'i deml fawr Neolithig yn bwysig, a'r meini hirion uwchben Penmaenmawr. Dwi'n meddwl fod 'na bron iawn i bumdeg o safleoedd ar Ynys Môn ag arwyddion Paganaidd. Maen nhw i gyd yn dod o amser lle roeddent yn mynegi'r cysylltiad rhwng tylwyth a thir - rhwng diwylliant y bobl a'r continiwm sy'n rhedeg drwy'r diwylliant Celtaidd.

"Dwi hefyd yn rhan o hen draddodiad 'doethgrefft'. Roedd yn rhaid i ni feddwl am air newydd i ddangos y gwahaniaeth rhwng dewiniaeth a doethgrefft. Mae'r gair gwrach (witch) yn dod o'r Eingl Sacsoneg am ddoethineb (wise), ac yn Saesneg witchcraft ydy'r term; felly 'doethgrefft'.

"Rydym yn dod at ein gilydd wyth gwaith y flwyddyn i ddathlu'r gwahanol wyliau ac mae pob dathliad yn arbennig i'r tymor. Ar Galan Gaeaf byddwn yn dathlu marwolaeth a'i holl gyfrinachau ac erbyn Alban Arthan (Winter Solstice) byddwn yn dathlu genedigaeth yr haul a bywyd newydd.

"Rydyn ni'n dod at ein gilydd yng ngogledd Môn, yn un o'r llefydd sanctaidd ar yr ynys, neu ar lan y môr, yn y goedwig, wrth ymyl llyn.

"Rydym yn gwisgo i fyny adeg y gwyliau yma. Mae pobl yn meddwl fod Paganiaid yn fudr a blêr ond dydy o'n sicr ddim yn rheswm i ddangos diffyg chwaeth! Rydw i'n gwisgo'r Gucci o wisgoedd Paganaidd! Yn draddodiadol mae derwyddon yn gwisgo gwyn ond du ydy fy lliw i - mae llawer mwy slimming!

"Rydym yn gwisgo i fyny am yr un rheswm mae rhywun yn gwisgo i fynd allan am noson - mae'n ddefod i ymolchi a gwisgo'n ddel. Mae pobl yn ei wneud i baratoi'n seicolegol ar gyfer rhywbeth anarferol, i symud o rywbeth bob dydd i rywbeth rydych am ei fwynhau, a dyna pam rydym yn gwisgo clogyn. Mae'r ymennydd yn deall fod rhywbeth gwahanol i'r arfer am ddigwydd ac mae hynny'n gyffroes.

"Mae traddodiadau derwyddiaeth a doethgrefft yn creu cymunedau ffantastig - dyma un o'r rhesymau gorau i ddod yn dderwydd neu wrach, beth bynnag ydych chi.

"Mae pawb yn dathlu bywyd - gan gynnwys y pethau mwyaf difrifol sy'n digwydd mewn bywyd hefyd, fel rhywun yn marw. Mae popeth yn brofiad sy'n unigryw i'r person, dyna beth sydd yn eich gwneud chi'n chi. Yn lle suddo o dan y straen, rydym yn ei ddathlu, er ein bod yn byw mewn cymdeithas lle nad yw pawb wedi cael eu dysgu i ymddwyn felly."


Cyfrannwch

Gwyn Howells o Luxulyan Cernyw
Diolch am eich esboniad. Dwi'n siwr eich bod ar y ffordd gywir. Mae traddodiad y derwyddon a'r Bwda yn llenwi'r awen a golau.

Sian Cwper o Lanfrothen
Diddorol iawn, hoffwn i wybod mwy, yn enwedig am hen grefydd y derwyddon. Bwdydd ydw i, a mi ydw innau hefyd yn wyddonol ac yn resymegol. Mae dysg y Bwda yn dibynu'n fawr iawn ar resymeg, ac yn pwysleisio dysgu och profiad eich hun.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý