Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Orig Williams yn reslo bôn braich gyda Dylan Jones Orig gyda'r reslwr
Er iddo ymddeol o reslo sawl blwyddyn yn ôl bellach, mae'r enw El Bandito yn parhau i lenwi pobl â pharchedig ofn.
Dylan Jones yw'r dyn dewr sy'n camu mewn i'r cylch gyda'r cawr o Ysbyty Ifan er mwyn darganfod mwy am y personoliaeth tu cefn i'r ymladdwr byd-enwog.

Yn Holi Orig, a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn Llanfair Tal Haearn, cafodd Dylan gyfle i sgwrsio ag Orig Williams wrth iddo ateb ei gwestiynau yn ogystal â chwestiynau'r gynulleidfa. Mae ei ferch, y gantores a'r actores Tara Bethan, bellach mor enwog â'i thad ac fe ymunodd hi yn y sgwrs a chanu ambell gân hefyd.

"Pan o'dd Tara'n y popty roedd pawb yn holi fi beth oddan i isio - hogyn ta hogan. Ac ro'n i wastad isio hogan. Taswn i 'di cael hogyn basa pawb yn disgwyl iddo fod yn het fatha fi," esbonia Orig gan chwerthin.

Cafodd Tara fagwraeth dra gwahanol wrth iddi hi a'i mam ddilyn ei thad o gylch y byd wrth iddo ymladd yn erbyn rhai o reslwyr gorau'r cyfnod. Roedd hi yn ei gornest cyntaf pan oedd ond yn ddim ond naw wythnos oed ond i Tara, dyma beth oedd bywyd 'normal'.

"Dwi'n cofio cyfarfod â'r holl ddynion anferthol ma' fel Giant Haystacks a chael fy ngwarchod gyda nhw yn y dressing room. Doeddwn i ddim yn gweld dim byd yn wahanol yn hyn tan i fi siarad gyda fy ffrindiau ar y iard a sylweddoli nad oedden nhw'n teithio'r byd gyda'r cewri yma," dywed Tara.

Doedd gan Tara fawr o ddiddordeb mewn reslo serch hynny felly doedd dim peryg iddi ddilyn yn ôl troed ei thad.

"Ro'n i'n real hogan fach wrth ym modd gyda barbie dolls ac yn licio ballet. Dwi'n siŵr fod gen i fwy o ddiddordeb yn reslo rŵan nag o'dd bryd hynny."

Mae diddordeb Orig mewn reslo yn fyw ac yn iach o hyd ac ar hyn o bryd mae'n hyfforddi Barry Griffiths o Borthmadog - gobaith newydd Cymru yn y gamp gorfforol. Mae Barry yntau yn westai ar y rhaglen arbennig hon a bydd cyfle i'w glywed yn sôn am y profiad o gael cefnogaeth ac anogaeth un a fu yn un o reslwyr gorau'r byd.

Holi Orig, Dydd Gwener, Gorffennaf 27, 12.15pm, Â鶹Éç Radio Cymru

  • Darllenwch fwy am Orig Williams yn ein bywgraffiad yn Oriel yr Enwogion


  • Cerddoriaeth
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý