Aethon ni i ddechrau ar y ffordd i'r Bala ac fe welon ni Sarn Helen, y ffordd oedd yn mynd o Fryn Castell, lle'r aeth Blodeuwedd pan oedd hi yn dianc oddi wrth Gwydion a Lleu reit i lawr i Drawsfynydd ac yn bellach.
Aethon ni wedyn i Tomen y Mur lle roedd llys Lleu a Blodeuwedd. Mae gan yr enw Blodeuwedd gysylltiad efo'r gair tylluan. Yn y cae o gwmpas y bryn roedd parêd Rhufeinig yn cael ei gynnal flynyddoedd yn ôl. Roedd Gronw Pebr, Arglwydd ar Ben Llyn, yn hela carw o gwmpas Craig Wen pan wnaeth Blodeuwedd ac ef gyfarfod y noson honno. Ar y pryd roedd Lleu wedi mynd i weld Math.
Cyn i Gastell Lleu gael ei adeiladu yn anrheg gan Math, roedd baddonau Rhufeinig ger y lle, ac mae'r bryn y gwnaethon ni ei weld wedi cael ei wneud allan greigiau mawr.
Fe aethon ni at lan Afon Cynfal i weld y maen gyda'r twll a ddefnyddiodd Gronw Pebr i arbed ei hun rhag gwaywffon Lleu ond aeth y wawyffon drwy'r maen a tharo Gronw yn ei gefn.
Fe welon ni Fryn Cyfergyd lle'r aeth Gronw Bebr i guddio rhag Lleu ac efallai, meddai Geraint V Jones, fod Lleu wedi taro Gronw Bebr o Fryn Saeth, rhyw ddwy filltir o lle'r oedd o'n cuddio. Ar ymyl Afon Cynfal casglodd Blodeuwedd ei milwyr pan wnaeth hi ddianc rhag Gwydion, ac mewn un fersiwn o'r stori pan ddaeth Gwydion ar ôl y milwyr roedden nhw wedi troi i edrych arno tra roedden nhw yn rhedeg ac oherwydd hyn fe wnaethon nhw ddisgyn i mewn i'r Llyn a boddi a dyna sut cafodd Blodeuwedd ei dal.
I orffen y daith cawsom gyfweliad gyda Hywel Gwynfryn ar gyfer Radio Cymru. Mi wnaethon ni fwynhau y daith hon yn ofnadwy. Diolch yn fawr i Miss Edwards, ein hathrawes Gymraeg, am drefnu - i Geraint Vaughan Jones am ein harwain a dysgu llawer i ni, i Robyn Williams, athro T.G.CH yr ysgol am holi, ffilmio a thynnu pob math o luniau! a diolch arbennig i Glyn Evans o Â鶹Éç Cymru'r Byd am y syniad o roi'r daith ar y wefan. Lleoliadau'r chwedl.Chwedl Blodeuwedd.
|