Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tim y Gogs Rygbi'r Hen Hogiau
Dyma Emrys Llewelyn Jones o Gaernarfon i ddweud pam nad oes neb byth yn rhy heb i fwynhau gêm o rygbi.

"Golden Oldies Rugby yw'r enw swyddogol ar ein gêm ni - 'da ni wedi bathu'r enw 'Rygbi'r Hen Hogiau' yn Gymraeg.

"Dechreuodd y syniad yn Seland Newydd yn y 1970au ac ers hynny mae wedi chwyddo yn beth enfawr!

"Mi ddaru wedyn ddatblygu yn Ewrop ac mae'n boblogaidd iawn yn yr Eidal a Ffrainc. Ddaru ni fynd draw i Benidorm yn 2004 a ddaru ni gwahodd yr Å´yl Ewropeaidd i Gaernarfon yn 2008, ond Portiwgal enillodd. Mae Madeira yn gynhesach 'na Chaernarfon eniwe!

"Rygbi veterans sy'n cael ei chwarae yn yr ardal yma gan y rhai hÅ·n, sy'n wahanol i ni. 'Da ni un lefel i lawr, does neb eisiau cael eu brifo!

"Dwi'n chwarae i dîm y Gogs (Geriatrics o Gymru) yng Nghaernarfon.

"'Da ni wedi bod i sawl gŵyl rhyngwladol - yn Nulyn, Christchurch, Vancouver, Capetown, Toulouse a Brisbane. Mi roedd cael mynd i Seland Newydd yn drip anhygoel yn ei hun, ond Awstralia oedd y gorau. Roeddwn i yna am fis, ac mi es i bob man, yn ogystal ag i'r ŵyl yn Brisbane. Roedd yn amser hir i ffwrdd o gartref ond mi wnes i gyfarfod â gymaint o bobl wych.

"Mae rheolau'r gêm yn syml. Rhaid bod dros 35 mlwydd oed, er bod y rhan fwyaf o'r Gogs yn eu pedwardegau - mae'r hynaf yn 64. Does neb yn ennill yn ein gemau ni - mae pob gêm yn gorffen yn gyfartal. Ein harwyddair yw 'Hwyl, Brawdgarwch a Chyfeillgarwch' - jest cael dipyn o sbort ydan ni. Mae gemau yn erbyn timau o Loegr yn gallu bod ychydig yn fwy corfforol - ond Cymru a Lloegr ydy hyna, mae'n digwydd bob tro!

Tim y Gogs ar ol ennill cwpan am y cit orau

"Mae rhai timau yn gwisgo siorts gwahanol liwiau i ddynodi gwahanol ddegawdau - y rhai rhwng 35 a 45 yn gwisgo du, glas i'r rhai rhwng 55 a 60, gwyn i'r rhai dros 60 a melyn i'r rhai nad oes neb yn cael eu taclo! Ond rŵan 'da ni jest yn gwisgo siorts lliwiau'r clwb - ond does dim ots, mi ellwch chi wisgo rhai efo dotiau neu streipiau os 'da chi eisiau! Y chwaraewr hynaf dwi wedi ei gyfarfod oedd Pedro Gonzalez o Sbaen, mi roedd o'n 94 ac yn dal i fynd. Mi wnaethon nhw ei gyflwyno efo siorts aur arbennig yn yr ŵyl!

"'Da ni ddim yn ymarfer yn swyddogol, er bod 'na griw bach sy'n dod at ei gilydd ar ddydd Sul. Ond mae'r rhan fwyaf yn mynd i'r gampfa neu'n rhedeg ar eu pen eu hunain - byddai'r gair 'hyfforddiant' yn ddigon i wneud i bawb redeg i ffwrdd!

"Mae'n gêm gymysg ac mae merch wedi ymuno efo ni, Kate Jones, ddaru chwarae dros Gymru. Yr unig broblem ydy ei bod hi'n fwy ffit na ni - does neb yn gallu dal i fyny efo hi! Mae Gareth Davies, cyn faswr Cymru, wedi cytuno i gael gêm efo ni y tro nesaf rydan ni yn y de - felly bydd dau sy' wedi chwarae dros Gymru ar ein tîm!

"Y tîm arall yn y gogledd yw How Gets, Bethesda. Mae 'na dîm o fois awyddus iawn i lawr yn Cwmbrân a rhai yn y cymoedd hefyd. Pan mae tîm ieuenctid yn dod i Gaernarfon i chwarae bydd y rhieni yn dod hefyd am gêm efo ni.

"Mae croeso i unrhyw dîm o Gymru sy'n awyddus i chwarae yn ein herbyn. Hefyd os oes rhywun eisiau ymuno efo ni, 'da ni wastad yn chwilio am chwaraewyr newydd. 'Da ni'n fodlon i groesawu unrhyw un, cyn belled â'u bod nhw'n fodlon talu am beint!"

Emrys Llewelyn Jones


Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý