"Mi wnes i gychwyn chwarae golff efo ffon blastig pan oeddwn yn fach. Yna, pan oeddwn yn saith, gan fod fy ffrindiau yn ymuno â chlwb St. David's yn Harlech, mi wnes i hefyd. Roeddwn yn arfer chwarae pêl-droed a ballu ond mi wnes i roi'r gorau i chwaraeon eraill tua tair blynedd yn ôl i ganolbwyntio ar golff.
Mi wnes i chwarae mewn cystadlaethau i'r clwb, yna i'r sir a gogledd Cymru cyn cael fy newis i chwarae i dîm Cymru o dan 16 pan oeddwn yn 13 mlwydd oed. Rŵan, dwi'n chwarae i dîm Cymru o dan 18. Ddaru ni chwarae mewn cystadleuaeth yn erbyn timau bechgyn o weddill Prydain yn ddiweddar - ond ddaru ni golli ar y twll olaf i Loegr!
Dwi hefyd wedi bod draw i Iwerddon ac Awstria yn chwarae a dwi'n rîli mwynhau'r trafaelio a'r cystadlu - dwi 'di gwneud lot o ffrindiau newydd drwy fod yn aelod o dîm Cymru.
Dwi hefyd yn mwynhau'r sialens, yn enwedig ar gwrs eithaf anodd.
Mi wnes i TGAU mewn chwaraeon, ac roedd y ffaith fy mod yn chwarae dros Gymru a'r tâp ohona i ar newyddion S4C yn chwarae wedi helpu efo fy ngwaith cwrs. Dwi rŵan yn astudio chwaraeon a hamdden yn y coleg a dwi'n gobeithio cael ysgoloriaeth golff i astudio mewn prifysgol yn America. Wedyn, mi hoffwn droi'n broffesiynol. Mae'n rhaid cael addysg dda a handicap o lai na phedwar i fod yn broffesiynol - mae gen i handicap o +1 ar y funud.
Fy hoff golffiwr yw Tiger Woods ac mi hoffwn ennill y Masters ar gwrs Augusta, Georgia, un diwrnod, a hefyd y British Open ar gwrs St Andrews.
Mae golff yn grêt - mi faswn i'n annog pawb i'w chwarae fo, pa bynnag oedran ydach chi. Jest ewch i'ch cwrs agosaf a chael gêm."
|