麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Paul Dooley yn chwarae o lawysgrif Robert ap Huw yn Nolgellau. Llawysgrif ap Huw
Fel y gwelwyd pan berfformiodd y telynor Gwyddelig Paul Dooley yn Sesiwn Fawr Dolgellau, mae hen lawysgrif o gerddoriaeth Gymreig yn dal i greu dipyn o gynnwrf yn y byd cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.
Roedd y Theatr Fach yn llawn dop yn 2005, yn bennaf oherwydd chwilfrydedd i glywed Dooley yn chwarae detholiad o geinciau o Lawysgrif Robert ap Huw sy'n dyddio n么l i tua 1613.

Ond pwy oedd Robert ap Huw a pham fod y llawysgrif yma wedi creu cymaint o gynnwrf?

Cerddor a chlerwr o F么n oedd Robert ap Huw a oedd yn ei ieuenctid yn ymweld 芒 thai m芒n fonheddwyr lle byddai'n cael llety, bwyd a chroeso.

Yn nechrau'r 17eg Ganrif fe roddodd ar gof a chadw nifer fawr o weithiau Cymreig - cerddoriaeth draddodiadol a oedd erbyn hynny o leiaf ddau gan mlynedd oed. Mae'r gerddoriaeth wedi ei hysgrifennu mewn ffordd sy'n edrych yn astrus iawn inni heddiw. Cafodd y llawysgrif ei dangos mewn arddangosfa gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2005 gyda'r disgrifiad yma:

"Dyma'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a'r llawysgrif hynaf mewn bodolaeth o gerddoriaeth i'r delyn. Peth o hynodrwydd y llawysgrif yw i Robert ap Huw ysgrifennu'r gerddoriaeth yn ei nodiant ei hun. Achosodd dyfeisiad cerddorol y dyn o F么n grafu pen am flynyddoedd maith wrth i gerddorion (ysgolhaig a lleyg) geisio dyfalu beth oedd ystyr a sain y nodau.

"Cymaint oedd enwogrwydd y llawysgrif ar y pryd fel i Vivaldi s么n amdano, a hyd heddiw mae cerddorion o Gymru a thramor (ac yn enwedig yr Iwerddon) yn gwneud defnydd helaeth ohono. Cedwir y llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig."

Cerddoriaeth aruchel

Er ein bod yn meddwl am gerddoriaeth y delyn fel cerddoriaeth werin, yn 么l y darlithydd a'r cerddor Stephen Rees o Brifysgol Bangor, nid cerddoriaeth werin sydd yn y llawysgrif yma ond cerddoriaeth aruchel ac unigryw sy'n gynhenid i Gymru.

"Yn yr un ffordd ag y mae pobl yn anymwybodol o'r iaith Gymraeg, dydi pobl ddim chwaith yn gwybod am y gerddoriaeth gynhenid yma.

"Nid cerddoriaeth werin ydy cerddoriaeth y llawysgrif yma ond cerddoriaeth roedd y beirdd yn ei chwarae yn nhai'r uchelwyr. Mae'r strwythur a'r harmon茂au yn hollol wahanol i unrhyw beth sydd i'w gael yn Ewrop - mae'n unigryw a dweud y gwir ond mae 'na debygrwydd rhyngddi 芒 cherddoriaeth y pibroch (cerddoriaeth draddodiadol hynafol o'r Alban sydd fel arfer yn cael ei chwarae ar y pibgwd).

"Mae'r gerddoriaeth yn seiliedig ar thema ac amrywiadau ac mae'n dod o ffynhonnell pell iawn yn 么l.

"Fe wnaeth Robert ap Huw, a'i athro William Penllyn, gofnodi'r gerddoriaeth ond roedd wedi bodoli ar lafar lawer iawn cyn hynny. Fe gafodd ei gofnodi yn yr un cyfnod ag yr oedd y beirdd yn mynd ati i gofnodi eu repertoire hwythau.

"Yn 1613 y 'sgrifennwyd llawysgrif Robert ap Huw ond mae'r traddodiad yn llawer h欧n. Felly mae na elfen o gadwraeth ynghlwm wrth y penderfyniad i'w gofnodi. Roedd tua'r adeg roedd baledi a chanu tebyg yn dod dros y ffin o Loegr, ond roedd y gerddoriaeth yma yn gerddoriaeth aruchel iawn - bron 芒 bod yn cyfateb i gerddoriaeth glasurol.

"Mae dau arbenigwr ar y gerddoriaeth yma. Un ydy William Taylor, Americanwr sy'n byw yn yr Alban ac sy'n gweithio gyda'r Cymro Robert Evans a'r llall ydy'r Gwyddel, Paul Dooley, (a fu'n chwarae cerddoriaeth o lawysgrifau Robert ap Huw yn Sesiwn Fawr Dolgellau). Mae'n cydweithio gyde Peter Greenhill sy'n byw yn Llanllechid.

"Mae'n iach iawn bod pobl fel hyn yn edrych i mewn i'r traddodiad. Mae'n hynod dda ei fod bellach yn cael ei gydnabod a'n bod yn darganfod haen newydd o'n traddodiad - mae'n ymestyn yr adnoddau sydd ar gael inni fel cerddorion."

Mwy o wybodaeth:



  • Dyw'r 麻豆社 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy