Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cerdded
Ynys Enlli Pererindod Pen LlÅ·n
Dilynwch olion traed pererinion Cristnogol y gorffennol dros Ben LlÅ·n i Ynys Enlli yng nghwmni'r Parchedig Andrew Jones (gyda lluniau Mary Smith).

Diben y ddwy bererindod ym Mhen LlÅ·n yw cyrraedd Ynys Enlli, ynys yr ugain mil o saint, sydd wedi bod yn ganolfan ysbrydol ers canrifoedd. Mae'r ddau lwybr yn cychwyn mewn dwy o eglwysi pwysicaf yr ardal - hen fynachdai Clynnog Fawr a Thywyn.

Ers i'r Cristnogion cynnar ddianc i'r Aifft i gael llonydd i addoli Duw, lledaenodd y traddodiad o agor canolfannau i addoli mewn heddwch, i Rufain, Ffrainc ac yna i Brydain. Oherwydd y traddodiad yma, gadawodd Sant Cadfan ei eglwys yn Nhywyn a theithio am yr ynys a welai ar y gorwel - Ynys Enlli - er mwyn sefydlu mynachdy yno.

Rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd y pererinion yn ddiweddar, yn enwedig o America. Mae'n bosib gyrru o un lle i'r nesaf erbyn hyn wrth gwrs, ond mae rhai dal yn cymryd wythnos i ffwrdd o'r gwaith i ddilyn un llwybr neu'r llall. Ond rŵan maen nhw'n gallu aros mewn gwesty moethus a chael G'n'T bach ar ddiwedd y dydd yn lle gwersylla mewn cae ger yr eglwys fel yr hen ddyddiau!

Llwybr y gogledd
Dyma lwybr pererindod fwyaf poblogaidd Pen LlÅ·n. Mae'n cychwyn yng Nghlynnog Fawr ac yn mynd ymlaen i Bistyll, Nefyn, Edern, Tudweiliog, Llangwnadl ac Aberdaron.

Mae'n anodd gwybod yn union lle'r oedd y llwybrau gwreiddiol ond byddent yn cerdded o eglwys i eglwys,. Roedd hyn am fod y llefydd yma yn lefydd da i orffwys neu oherwydd eu harwyddocâd ysbrydol.

Llwybr y de
Mae'r llwybr yma yn anoddach i'w olrhain gan fod aber y Mawddach wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd. Wrth gychwyn yn Nhywyn, byddai'n rhaid mynd i mewn i'r wlad cyn belled a Ddolgellau er mwyn croesi'r afon ond heddiw, wrth gwrs, gellid croesi dros y Cob.

Yn fras, byddent yn mynd o Dywyn i gyfeiriad Dolgellau, heibio i Abaty Cymer a Llanelltyd. Wedyn i fyny tuag at y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Harlech, draw i Abererch ac i lawr i Aberdaron.

Cliciwch isod i ddilyn y ddau lwybr:
Llwybr y gogledd
Llwybr y de
Esgyrn pererinion Aelhaearn


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý