Taith Moelfre gyda Jonsi Taith Fyd-enwog Moelfre gyda Jonsi oedd y drydedd mewn cyfres o deithiau cerdded a gynhaliodd Â鶹Éç Radio Cymru ar Fai 1, 2006, mewn cydweithrediad â Menter Môn i ddathlu agoriad Llwybr Arfordirol Môn.
Jonsi a rhai o'r cerddwyr ger yr Wylfan ym Moelfre yn barod ar gyfer y daith gerdded.
Roedd y daith yn cychwyn yn yr Wylfan ac yn mynd heibio i rai o nodweddion hynod yr ardal, gan gynnwys ymweliad Charles Dickens â'r pentref wedi trychineb y Royal Charter a straeon arwrol rhai o weithwyr y bad achub lleol.