Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blaenau Ffestiniog
Pont Cwîns yn y Blaenau, 1930au Y Chwarelwr
Stori'r rîl goll
Mae'r ffilm Gymraeg gyntaf - a gynhyrchwyd ym 1935 ac sy'n adrodd hanes teulu chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog - wedi ei hadnewyddu.
Cynhyrchwyd Y Chwarelwr gan Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a'r athro a'r dramodydd John Ellis Williams, a oedd yn pryderu am ddylanwad cyfeiliornus diwylliant Americanaidd yng Nghymru.

Mae'r ffilm 37 munud o hyd yn adrodd hanes dramatig teulu chwarelwr cyffredin ac roedd yr actorion i gyd yn aelodau o Gymdeithas Ddrama ym Mlaenau Ffestiniog, gyda'r dynion i gyd yn chwarelwyr eu hunain.

Cost cynhyrchu'r ffilm wreiddiol oedd £2,900 ond llwyddodd y ffilm i dalu amdani'i hun drwy gael ei dangos yn eang ar draws gogledd Cymru yn ystod 1935-36 - bum noson yr wythnos ar gyfartaledd, gan ddenu cynulleidfaoedd mawr.

Ond fe gollwyd y rîl olaf 8-munud rai blynyddoedd yn ôl.

Lansiodd y cynhyrchydd teledu Ifor ap Glyn apêl i ddarganfod y rîl goll a, phan fethodd yr apêl, penderfynodd gymryd yr awenau ac ail-greu'r golygfeydd colledig ei hun er mwyn galluogi cynulleidfaoedd heddiw i fwynhau'r ffilm.

Gan gastio a chyfarwyddo actorion amatur lleol a saethu ar leoliad ym Mlaenau Ffestiniog a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, Llanberis, fe arhosodd Ifor yn driw i'r cynhyrchiad gwreiddiol.

"Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan y ffilm erioed ac wedi dechrau gweithio ar gyfres o raglenni dogfen fel teyrnged i wneuthurwyr gwreiddiol y ffilm a'u gwaith," esbonia Ifor.

"Roedd Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams yn llawn egni. Roeddent yn camu i fyd hollol anghyfarwydd ac yn gorfod meistroli crefft newydd mor sydyn ac rwy'n edmygu'r ffordd yr oeddent am herio ffilmiau Americanaidd.

"O ran saethu'r golygfeydd coll, roeddwn am aros yn driw i'w gweledigaeth ond roedd yn rhaid i mi feddwl hefyd am anghenion y gynulleidfa gyfoes."

Y cyfarpar a ddefnyddiwyd i wneud Y Chwarelwr yn 1935 oedd camera Bell and Howell gwerth £250, gwerth £100 o ffilm, dau daflunydd ac un generadur.

Ffilmiwyd y cynhyrchiad gwreiddiol heb sain gyda'r actorion i gyd yn teithio i stiwdios Ealing yn Llundain i recordio'r sain ar ddisg.

Roedd y trac sain gwreiddiol hwnnw wedi goroesi, gan alluogi Ifor i ail-greu'r golygfeydd coll. Ond, gan ei bod yn anodd deall y sain ar brydiau, penderfynwyd recordio un newydd. Gwahoddwyd Pwyll ap Siôn hefyd i gyfansoddi sgôr newydd ar gyfer y ffilm.

Gwnaethpwyd y gwaith adnewyddu ar y ffilm gan John Reed, Swyddog Cadwraeth yr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain, a weithiodd arni dros gyfnod o flwyddyn.

"Roedd fel jig-so enfawr," esbonia. "Fe wnaethon ni ddod â gwahanol rannau o'r ffilm o wahanol gasgliadau at ei gilydd - y rhai mwyaf diweddar oedd dwy rîl a ddarganfuwyd eleni yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan."

Mewn llythyr yn Y Cymro mis Mawrth 1936 dywedwyd: "Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg.

"Pan sylweddolir fod y talkie Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol."

Cafodd hanes adfer y ffilm a'r ffilm ei hun ei dangos ar S4C.

Meddai Lowri Gwilym, Comisiynydd Ffeithiol Cyffredinol S4C: "Daw hanes ardal, hanes ffilm - a dos o deledu realiti - yn un yn y gyfres ddogfen hwyliog hon, tra bod y ffilm orffenedig yn cynnig golwg amhrisiadwy o fywyd mewn ardal ddiwydiannol yn y gogledd orllewin yn y 1930au."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Straeon Digidol
Trefi
Ffilmiau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý