Roedd John M Thomas yn fab i Owen M. Thomas ac Elinor ei wraig, a ymfudodd i America o Ddolgaregddu, Ffestiniog, gan wneud eu cartref yn Fairhaven, Vermont.Dim ond 16 oed oedd John pan ymrestrodd gyda'r Vermont Infantry, ym mis Tachwedd 1863, ryw ddwy flynedd a hanner wedi i ryfel ddechrau rhwng taleithiau'r De, oedd yn caniatau caethwasiaeth, a thaleithiau'r gogledd, oedd am ddod â'r arfer i ben.
Ar y 5ed o Fai 1864, roedd ymhlith byddin y Cadfridog Ulysses S Grant wrth iddo groesi i fewn i dalaith Virginia gan geisio dinistrio byddin y Cadfridog Robert E Lee.
Bu brwydr rhwng y ddwy fyddin dros gyfnod o dri diwrnod mewn ardal anghysbell a adwaenir fel y 'Wilderness'. Nid oedd canlyniad pendant i'r ymladd, er i luoedd yr Undeb golli 18,000 o ddynion o'i gymharu â'r 11,000 a gollwyd ar ochr y De.
Ymhlith y 18,000 oedd John M Thomas, a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf y frwydr, yn 17 mlwydd a 3 mis oed.
Dri mis yn ddiweddarach, fe ymddangosodd cerdd deyrnged iddo yn y cyfnodolyn Cymraeg Y Cynhadwr Americanaidd a gyhoeddwyd yn un o gadarnleodd Cymraeg gogledd America, sef tref Remsen yn nhalaith Efrog Newydd.
Dyma ddyfyniad o'r gerdd:
Pwy all ddeall iaith och'neidiau
Dwysion glywir yn ein gwlad?
Pwy all rifo'r helltion ddagrau
Wlychant ruddiau llawer tad;
Arfau miniog rwygant galon
Mamau tyner, haawddgar wedd,
Wrth adgofio am eu meibion
Laddwyd gan angeuol gledd.
Yn eu mysg mi'ch gwelaf chwithau
Yn ofidus iawn yn awr,
Wedi colli'ch mab hawddgaraf
Draw ar faes y fyddin fawr.
Syrthio wnaeth yn archolledig
Gyda mil a llawer mwy;
Cludo baner buddigoliaeth
Fu'n farwolaeth iddynt hwy.
Mae'r gerdd wreiddiol wedi ei harddangos mewn amgueddfa milwrol yn Fredericksburg, Virginia, gyda chyfieithiad Saesneg, ac mae hefyd yn cael ei chofnodi ar sy'n nodi'r rhan a chwaraewyd gan Vermont yn y rhyfel.
I Bob Roser, Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg, ac a glywir o bryd i'w gilydd fel sylwebydd ar Â鶹Éç Radio Cymru, y mae'r diolch am ddod â'r gerdd at sylw'r haneswyr, ac am sicrhau coffadwraeth barhaol i un a fu farw ymhell iawn o Sir Feirionnydd.