Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bangor
Llion Dafydd Llion y llywydd
Daw Llion Dafydd o Waunfawr ger Caernarfon yn wreiddiol ac mae'n Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor 2004-5, ac yn mwynhau pob eiliad ...

"Fel arfer, mae swydd llywydd UMCB yn para am flwyddyn, ond mi wnes i benderfynu rhedeg am ail dymor ac mi ges fy ailethol yn haf 2005.

"Dwi wedi gwneud dwy flynedd o fy ngradd mewn bywydeg moleciwlar. Dwi'm yn gwybod os ydy cymryd dwy flynedd i ffwrdd o'r cwrs y peth callaf i'w wneud - mi wna'i ffeindio allan pan â i nôl flwyddyn nesa!

"Roeddwn wedi dechrau bod yn rhan o UMCB pan ddechreuais i yn y coleg fel swyddog materion Cymraeg, ac felly is-lywydd UMCB. Sylweddolais yn fuan fy mod am geisio bod yn Llywydd UMBC ac, ar ôl llwyddo, penderfynais geisio aros am flwyddyn arall gan fy mod yn teimlo fy mod wedi gwneud lot o waith caled ac wrth aros am flwyddyn arall mi fyswn yn gosod gwreiddiau cadarn i'r dyfodol. Wrth gael fy ailethol mae'n rhaid fod yr aelodau yn meddwl fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn!

"Mae na dair prif agwedd i'r swydd. Yn gyntaf, dwi'n cynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol - y rhai sydd yma rŵan ac yn y dyfodol. Pan mae hi'n dod at benderfyniadau'r Brifysgol, os oes 'na faterion sy'n ymwneud â dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Neuadd Gymraeg sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg y coleg, fi sy'n eistedd ar y pwyllgorau i sicrhau fod yna chwarae teg.

"'Dwi hefyd yn gwneud hyn ar lefel genedlaethol, gan gydweithio gyda swyddogion undebau Cymraeg eraill dros Cymru.

"Yn ail, 'dwi'n helpu i drefnu cyfleoedd cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg gymryd rhan mewn digwyddiadau tu allan i'w astudiaethau - tripiau, timau golygyddol i'r papur newydd Cymraeg, y Ddraenen, cynhyrchu rhaglenni ar Storm FM, timau chwaraeon, cymdeithas gorawl a mwy.

"Yn drydydd, 'dwi'n rhan o dîm o bump swyddog undeb llawn amser yn Undeb Bangor. 'Da ni'n ceisio sicrhau fod pob myfyriwr yn cael chwarae teg - bod y safon addysg yn uchel a bod y Brifysgol yn lle saff i bawb wneud beth maen nhw eisiau - chwaraeon, clybiau a chymdeithasau, gwaith gwirfoddol.

"'Da ni'n cynnal Clwb Cymru bob yn ail nos Iau, a 'da ni hefyd wedi llwyddo i sicrhau noson Gymraeg yng nghlwb Amser/Time bob ail Sadwrn y mis. Mae'n wych bod cyfle i'r myfyrwyr a'r cyhoedd weld bandiau Cymraeg mewn lle o safon a dwi'n ffyddiog y bydd y nosweithiau yn llwyddiant.

"Peth arall mawr yw trefnu i fynd â myfyrwyr i lawr i'r ddawns ryng-golegol yn Aberystwyth ym mis Tachwedd ac wedyn i'r eisteddfod ryng-golegol sy'n cael ei chynnal bob mis Chwefror/Mawrth, rywle yng Nghymru.

"'Dwi yn edrych mlaen i fod yn fyfyriwr heb y cyfrifoldeb o redeg UMCB ond mi fydd hi'n od iawn mynd yn ôl i ddarlithoedd ac arholiadau ar ôl gweithio mewn swydd mor intense!"



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý