Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bangor
Myfyrwyr Gwefan y Brifysgol
Os ydych chi'n newydd i'r Brifysgol ym Mangor neu jest angen arweiniad, mae Lynsey Anne, o dîm gwefan y Brifysgol, yn eich gwahodd i edrych ddim pellach na'u safle ar y we.

"Mae pob myfyriwr yn wahanol, dyna pam fod Bangor yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae gwefan Prifysgol Cymru, Bangor yn llawn gwybodaeth hanfodol ar gyfer myfyrwyr newydd. Er nad Bangor yw'r ddinas fwyaf yn y byd, mae'n ddigon mawr i ddarparu popeth yr ydych chi ei angen i fyw bywyd llawn a hapus yma fel myfyriwr.

"Bwriad yr adran 'Bywyd Myfyrwyr' ar wefan y Brifysgol yw rhoi blas ar fywyd ym Mangor. Fel tîm gwe'r Brifysgol rydym ni'n cynhyrchu nifer o dudalennau hanfodol sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth sy'n effeithio arnoch chi fel myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyllid a ffioedd, chwaraeon, siopau ac atyniadau ynghyd â'r newyddion diweddaraf ac erthyglau am fyfyrwyr presennol.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio law yn llaw â myfyrwyr i ysgrifennu erthyglau am eu profiadau a ffilmio fideos sy'n rhoi darlun clir o fywyd yma.

"Mae tipyn o fideos a theithiau newydd ar y wefan. Wedi ei lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a'r Fenai mae'n debyg mai Bangor yw'r lleoliad prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae yma ddigonedd o lefydd i fynd, clybiau i ymuno â nhw, cyfleusterau hamdden rhagorol ac mae 'na fywyd cymdeithasol gwych!

"Os nad ydych chi'n gyfarwydd â Bangor, cewch wylio'r fideo "Cyflwyniad i Fangor" sy'n dangos beth sydd i'w wneud yn yr ardal a thu hwnt.

"Mae cyfle hefyd i weld dyddiaduron polaroid myfyrwyr o'u hwythnos gyntaf fel myfyrwyr a chyfle i glywed am brofiadau a theimladau myfyrwyr yn ystod wythnos y glas ar y fideo "Cadair y Glas".

"Rydyn ni hefyd wedi creu proffiliau o'n myfyrwyr ac ysgrifennu am y ddinas, y tafarndai, am glybiau a chymdeithasau a llawer, llawer mwy er mwyn rhoi darlun clir i chi o beth i'w ddisgwyl ym Mangor. "

  • Ewch i i weld y wefan.


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý