Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bangor
Y cloc a'r Stryd Fawr ym Mangor Croeso i Fangor
Wedi ei hadeiladu ar lannau'r Fenai, Bangor yw unig ddinas yr ardal, ac mae'n gartref i Brifysgol Cymru, Bangor.

Mae'r boblogaeth o tua 13,000 yn cynyddu bob tymor pan ddaw'r myfyrwyr nôl i'r brifysgol, gyda thua 49% o'r boblogaeth yn siaradwyr Gymraeg.

Sut i gyrraedd
I gyrraedd y ddinas mewn car o gyfeiriad Llandudo ar yr A55 neu Fethesda ar yr A5, trowch oddi ar gyffordd 11. Cadwch i'r chwith gan gymryd y trydydd allanfa ar y gylchfan os ydych chi'n dod oddi ar yr A55 neu'r ail os ydych chi'n dod oddi ar yr A5. Yna dilyn yr arwyddion am ganol y ddinas. Yr A487 sy'n dod â chi i'r ddinas ar hyd yr arfordir o Gaernarfon a bydd Pont Britannia neu Bont Menai yn eich cludo yma o Ynys Môn.

Mae trenau rheolaidd i Fangor o Lundain, Crewe a Birmingham. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Arriva ar 08456 061660. Am fanylion gwasanaethau bws, ffoniwch 01286 679535 neu 0870 5808080 i'r National Express.

Prif atyniadau
Stryd fawr Bangor yw un o'r strydoedd siopa hiraf ym Mhrydain, gyda nifer o siopau adnabyddus yn ei gwneud yn ganolfan siopa i lawer yn yr ardal. Yn agos i'r brif stryd mae'r Eglwys Gadeiriol, gyda Neuadd y Penrhyn a'r Amgueddfa gerllaw, a Theatr Gwynedd, sy'n dangos ffilmiau, dramâu a nosweithiau cerddorol.

Mae presenoldeb y myfyrwyr yn sicrhau bod digonedd o dafarndai a bwytai yn y ddinas, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon, celfyddydau ac addysg.

Heb fod ymhell o Fangor mae Castell Penrhyn, cartref Arglwyddi Penrhyn, a oedd yn berchen ar y chwareli llechi cyfagos. Mae yna hefyd amgueddfa trenau stêm yn hen stablau'r castell.

Cyfeiriadau defnyddiol
Cyngor y ddinas
Swyddfa'r Cyngor, Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT
01248 352421
Clerc: Mr Gwyn Hughes

Llyfrgell
Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DR
01248 353479

Neuadd Chwaraeon Arfon
Ffordd Ffriddoedd, Bangor LL57 2JT
01248 351697

Prifysgol Cymru, Bangor
Prif Adeilad Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG
01248 351151

Canolfan groeso
Neuadd y Dre, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2RE
01248 352786

Theatr Gwynedd
Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TL
01248 351708

Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL571DT
01248 353368
Ar Agor: Mawrth i Gwener 12.30-4.30; Sadwrn 10.30-4.30
ebost: amgueddfagwynedd@gwynedd.gov.uk
Gwefan: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Castell Penrhyn
Bangor, Gwynedd LL57 4HN
01248 363200



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý