"Fe ddechreuodd y penwythnos cofiadwy yn gynnar, gyda Clwb Cymru llwyddiannus ar y nos Iau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cafwyd noson o ganu a dawnsio gwyllt gan fyfyrwyr Cymraeg Bangor yn eu gwisgoedd Gŵyl Ddewi amrywiol.
Cafwyd criw o genhinau pedr, llwyth o fenwod bach Cydweli ac un ffermwr bach dewr. Roedd clwb nos 'Academi' dan ei sang ac ysbryd y penwythnos wedi treiddio i fêr esgyrn y dorf.
Closiodd dydd Gwener yn gyflym a gwawriodd diwrnod o drefnu, chwysu a phoeni. Fel cloc, aeth pob dim a allai fod wedi mynd o'i le, o'i le. Roedd y cyfrol o gyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod yn bell o fod yn barod i fynd i brint a llwyddodd pethau fynd o ddrwg i waeth pan cawsom wybod nad oedd y llety yr oeddem wedi ei drefnu ar gyfer y colegau eraill ar gael bellach.
Â'r colegau eraill wedi dechrau ar eu taith, doedd dim troi'n ôl. Felly, doedd dim amdani ond mynd ar ein pengliniau i ymbil i JMJ i letŷa cant a mwy o fyfyrwyr brwd a oedd ar eu ffordd i fyny o Gaerdydd, Abertawe a Aberystwyth erbyn hyn. Er, doedd dim pwynt eu hysbysu hwy am y newidiadau munud olaf, gan eu bod yn prysur ymbalfalu i waelodion y caniau lager a'r bocsys gwin Country Manor erbyn hyn. Diolch byth am hynny, oherwydd fe arafodd y ffaith iddynt orfod aros mewn tai bach bob hanner awr eu taith yn sylweddol, a rhoddodd gyfle i ni'r tri ffŵl doeth i orffen paratoi ar eu cyfer. Ond, ar ôl diwrnod i'w anghofio, aeth y noson gyntaf yn hwylus a gafaelodd pawb yn y cyfle i gwrdd â hen ffrindiau unwaith eto i sŵn cyfarwydd caneuon Cymraeg juke-box y Glôb.
Ar ôl noson fawr ym Mangor Ucha', rowlio lawr i'r Undeb ar gyfer yr Eisteddfod oedd y peth diwethaf ar feddwl y myfyrwyr sâl.
Ond, mynd fu raid, ac erbyn hanner dydd, â'r haul wedi mentro allan yn ei ddillad gorau, roedd clwb nos 'Amser' unwaith eto dan ei sang i gyfeiliant presenoldeb unigryw Twm Morys yn traddodi beirniadaethau'r Goron a'r Gadair.
Fe aeth y gadair i LlÅ·r Lewis o Brifysgol Caerdydd, a'r goron i Rhodri Evans o Brifysgol Bangor.
Synnwyd pawb wrth weld un o Fangor yn codi adeg y brif seremoni. Wedi'r cyfan, gallai neb feio dilynwyr brwd yr Eisteddfod Ryng-golegol am feddwl nad oedd mwy na phymtheg aelod yn UMCB wedi ein ffigurau presenoldeb yn y tair Eisteddfod olaf!
Ond, chwalwyd y stigma mewn steil eleni, a llwyddodd Bangor, nid yn unig i roi sioe dda i'r colegau eraill, ond i ennill y goron a'r côr.
Daeth y marciau terfynol i law, ac yn wir, dwy geffyl oedd ynddi.
Do, llwyddodd criw Abertawe synnu pawb drwy guro Aberystwyth, ond mae'n siŵr mai'r syndod fwyaf oedd mai Bangor oedd yn dathlu ar ddiwedd y dydd!
Ac i goroni'r cyfan, cafwyd gig hynod o lwyddiannus y noson honno gyda bron i fil o fyfyrwyr a Chymry lleol yn uno i ddawnsio'n ddwl i gyfeiliant yr anfarwol Frizbee."
Mae manylion Eisteddfod Rhyng-golegol Bangor 2007 i'w cael ar
Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Safle Myfyrwyr BangorCyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.