Daw pob tymor yn don i'ch herio a brwydr barhaus yn erbyn y lli yw'r tair blynedd yn y b么n. Bron i dair blynedd wedi i mi ddod i Fangor yn las fyfyriwr, fe ddaeth y daith i ben, a hynny yn llawer rhy sydyn.
Anodd oedd credu fy mod yn ffarwelio 芒 Bangor a'r Gogledd heb i mi eto fod yn dringo'r Wyddfa neu'n troedio traethau Ynys M么n.
Dychwelodd pawb i Fangor wedi Eisteddfod yr Urdd eleni yn barod am farathon o wythnos ffarwel. Roedd nos Lun yn gyfle i ailymuno 芒 hen ffrindiau wedi cyfnod yr arholiadau ym Mangor Ucha' ac yng nghlwb nos Amser yn yr Undeb. Roedd yr Undeb yn orlawn a phawb yn methu credu mai hon oedd nos Lun ola' ym Mangor i bron i draean o'r myfyrwyr a oedd wedi tyrru yno.
Roedd rhost mochyn wedi ei drefnu ym mwyty Glantraeth ar ein cyfer ni'r myfyrwyr Cymraeg nos Fawrth.
Mentrodd pawb allan yn eu dillad gore i ddathlu blwyddyn lewyrchus UMCB.
Diolchodd Gerallt, y llywydd, i'r holl aelodau am eu cefnogaeth drwy'r flwyddyn ac fe fynegodd Angharad, llywydd neuadd JMJ, ar ran holl aelodau UMCB ein diolch am waith caled Gerallt.
Ond yr hyn a ddaeth 芒 deigryn bychan i lygad mwy nag un y noson honno oedd geiriau dau fachgen o'r drydedd, Prys a Gwynant. Rhaid nodi yn y fan hon mai cywir yw'r dywediad mai gan y gwirion y ceir y gwir. Llwyddodd y ddau strab yma i roi geiriau i deimladau'r drydedd gyfan wrth ddweud ychydig iawn am y profiad o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mangor dros y tair blynedd ddiwethaf.
Barbiciw yn JMJ oedd arlwy nos Fercher ola'r tymor. Chwarae teg i bwyllgor y neuadd am agor eu drysau i aelodau UMCB a'u ffrindiau am noson o sgwrsio am helyntion y noson cynt ac am gynnig un cyfle ola i ni'r drydedd i brofi arogl anghymarus yr hen neuadd!
I'r rhai a fentrodd ei gwneud yn bedair noson o'r bron, dydd Iau oedd yr uchafbwynt mae'n si诺r. Roedd cr么l wedi ei threfnu gan UMCB o amgylch y dre i'r myfyrwyr sychedig a'u pennau tost. Cawsom ddiwrnod cofiadwy a noson emosiynol yn y Gl么b i gloi'r dathlu a'r ffarwelio.
Hoffwn ddiolch i Gerallt unwaith eto am wneud ein hwythnos ola' fel myfyrwyr ym Mangor yn un bythgofiadwy.
Lowri Evans Mwy gan Lowri ac eraill am fywyd myfyrwyr BangorCyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 麻豆社 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|