Gwrandewch ar Zonia BowenTrawsgrifiad: "Roedd hi'n amser cyffrous i'r iaith Gymraeg - y cyfrifiad wedi bod a'r iaith Gymraeg yn mynd i lawr a Saunders Lewis wedi gwneud y ddarlith ar dynged yr iaith ac wedi dweud i beidio 芒 llenwi unrhyw ffurflen os nad oedd e'n Gymraeg a phethe felly - a dyna oedd y sefyllfa pan aethon ni i fyw yn y Parc.
Penblwydd
Cangen y Bala
Gwahoddir y rhai a fu'n aelodau yn ystod y deugain mlynedd diwethaf ers sefydlu y gangen yn 1968 i ymuno yn nathlu Penblwydd Merched y Wawr Bala. Hoffent dderbyn enwau pawb sy'n bwriadu ymuno cyn Chwefror 2il, 2008 - os oes diddordeb cysylltwch 芒 Menna Ll Green ar 01678 520 123.
Dathlu'r 40
Bu Merched y Wawr yn cynnal gweithgareddau i ddathlu'r deugain drwy gydol 2007, yn cynnwys pasiant yn Ysgol y Berwyn. Recordiwyd Cymanfa Ganu yng Nghapel Tegid, y Bala, ar gyfer rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol hefyd. Mae manylion digwyddiadau'r flwyddyn a mwy am y mudiad ar wefan Merched y Wawr:
Ewch i ddarllen am yr achlusur ym Mhapur Penllyn.
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
1965 oedd hynny a doeddwn i ddim wedi bod yn aelod o unrhyw beth fel y WI o'r blaen. Ond gan fy mod i yn Saesnes wedi dysgu Cymraeg ro'n i eisiau ymarfer siarad a dod i adnabod merched y pentref a phan daeth gwraig un o'r ffermwyr aton ni a dweud ei bod yn cychwyn WI, mi ymunes i.
Er syndod imi fe ges i fy ethol yn ysgrifennydd y gangen. Nawr, sylweddolais i yn syth bod popeth oedd y swyddogion yn ei roi inni y noson y sefydlwyd y gangen yn Saesneg - y cyfansoddiad, roedden nhw'n dangos cylchgronau inni - Home and Country, North Wales Edition, dyddiaduron .... popeth yn Saesneg, dim byd yn Gymraeg. Fel newydd-ddyfodiad doeddwn i ddim yn licio dweud dim byd ar y pryd, jyst yn derbyn y drefn.
A reit, dechreuodd y gangen. Ac roedden nhw'n ein sicrhau ni bod y gangen yn gallu gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna be wnaethon ni. Ond roedd popeth oedd yn dod o'r pencadlys yn Llundain yn Saesneg a phopeth oedd yn dod o'r sir, bron, yn Saesneg er bod y swyddogion sirol yn siarad Cymraeg eu hunain - ond roedd popeth yn Saesneg ...
... Nawr roedd rhaid imi wneud adroddiad o'r gweithgareddau roedden ni wedi eu cynnal yng nghangen y Parc a, gan ein bod wedi eu cynnal nhw i gyd yn Gymraeg, mi ddanfones i'r adroddiad yn Gymraeg.
Ond fe ges i yn 么l o'r sir, ffurflen swyddogol yn Saesneg yn gofyn imi ei llenwi yn Saesneg ... Tua'r un pryd daeth llythyr o'r sir bod yn dweud bod y t芒l mabwysiadaeth ro'n i fod i'w ddanfon bob blwyddyn i'r pencadlys yn Llundain, ac i'r sir , yn ddyledus. Felly ar 么l trafod pethe yn y Parc dywedais i bod e ddim yn iawn ein bod yn talu'r holl arian allan i'r sir ac i Lundain ac yn cael dim yn 么l yn Gymraeg.
A phenderfynon ni yn y Parc i gadw'r arian yn 么l .... nes inni gael ffurflenni a phethe yn Gymraeg. Felly ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf trefnon ni gyfarfod blynyddol y Parc a ddaru ni wahodd un o'r swyddogion yno i drafod busnes yr iaith yna. Ond ges i ysgrifenyddes y sir ar y ff么n yn dweud wrthon ni i ohirio'r cyfarfod tan mis Rhagfyr a bod tri ohonyn nhw yn dod lawr i'n gweld ni.
Wel, doedden ni ddim yn disgwyl unrhyw broblem; jyst meddwl eu bod nhw'n mynd i drafod busnes yr iaith ac oherwydd eu bod nhw'n siarad Cymraeg i gyd roeddwn i'n meddwl efallai y gallwn i eu perswadio nhw ac ro'n i'n fodlon gwneud popeth i'w helpu nhw a doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw helynt o gwbl.
Ond pan daethon nhw i lawr, yn syth roedd yn amlwg eu bod nhw wedi dod yno i ddweud y drefn. Roedden nhw'n gwrthod i'n cadeirydd ni yn y Parc gymryd y gadair, roedden nhw'n cymryd drosodd ac roedden nhw'n dweud mai sefydliad Saesneg oedd y WI, gyda phencadlys yn Llundain, a doedd dim hawl ganddon ni i ddisgwyl pethe yn Gymraeg.
Mi ofynnais i chwe cwestiwn iddyn nhw, pethe fel bod sir Feirionnydd yn rhoi grant bob blwyddyn i'r WI yn sir Feirionnydd a pam nad oedden nhw'n defnyddio peth o'r arian yna ar gyfer cynhyrchu pethe Cymraeg ... ond wrth gwrs, doedd dim byd yn tycio.
Roedden nhw'n dweud pan agorwyd y gangen ein bod ni wedi arwyddo'r cyfansoddiad, roedden ni wedi derbyn mai Saesneg oedd iaith swyddogol y mudiad ac os nad oedden ni'n derbyn y rheolau yma a thalu'r t芒l mabwysiadaeth, fyse rhaid inni beidio bod yn aelodau o'r WI.
Wel ar 么l iddyn nhw fynd allan i gael te, ddaru ni drafod y mater yn y gangen a penderfynon ni dalu'r arian oedd yn ddyledus ond dweud bod ni ddim yn mynd i dderbyn mai Saesneg oedd unig iaith swyddogol y WI.
A dywedais i wrth y merched os na fydden nhw'n derbyn hynny a'u bod nhw'n danfon am ein papurau swyddogol a chau'r gangen, wel fe fydde rhaid inni ddechre mudiad arall i ferched yng Nghymru. A dyna beth ddigwyddodd."