Ond erbyn hyn mae cam olaf prosiect i adleoli'r pysgodyn prin, a cheisio'i atal rhag diflannu am byth, wedi ei gwblhau.
Prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oedd hwn, ac fel rhan ohono cafodd wyau wedi eu ffrwythloni eu symud i lyn gerllaw. Cafodd yr wyau a gaiff eu cynhyrchu gan bysgod sy'n silio eu cymryd o Lyn Tegid, a'u rhoi mewn safle cyfagos, a'r gobaith yw y bydd poblogaeth newydd yn ffynnu yno mewn amodau mwy ffafriol.
Meddai Richard Brassington o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Yn rhannau dyfnaf ac oeraf y llyn y mae'r pysgod yma'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser, a dim ond yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn y byddan nhw'n mentro i ddŵr mwy bas yn ystod y nos i silio. "Gwnaeth ein Swyddogion Pysgodfeydd yn fawr o'u profiad a'u harbenigedd wrth ddefnyddio rhwydi sân i ddal rhywfaint o bysgod a'u symud yn ddiogel i'w cartref newydd. (Dull o rwydo'r pysgod mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied â phosibl arnyn nhw a'r amgylchedd ydy hwn.) Wnaethon ni dal 31 o bysgod."
Yn ôl Rhian Thomas, Ecolegydd Dŵr Croyw'r Cyngor Cefn Gwlad: "Er mai dyma oedd cam olaf y prosiect adleoli yma, fe fyddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Yn ystod yr haf, fe fydd arolwg pellach yn cael ei gynnal ar wyniaid Llyn Tegid er mwyn monitro unrhyw newidiadau yn y boblogaeth. Hefyd, ymhen dwy flynedd fe fydd arolwg yn cael ei gynnal ar y llyn cyfagos i weld pa mor llwyddiannus fu'r prosiect adleoli. Y gobaith yw y bydd poblogaeth newydd o'r gwyniad yn sefydlu gydag amser."
Meddai Rob Gritten, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r gwyniad yn bysgodyn unigryw iawn, a rhaid inni wneud pob ymdrech i ddiogelu'i ddyfodol o fewn y Parc Cenedlaethol."
|