"Un diwrnod yn y 1970au, roeddwn i a fy ngwraig wedi mynd i eistedd ger y llyn, ryw filltir o'r Bala. Mi ddaru ni weld rhywbeth yn sticio allan o'r dŵr - rhyw domen, tua troedfedd a hanner mewn taldra. Symudodd yn araf i fyny'r llun, ymhellach a phellach i ffwrdd nes iddo ddiflannu. Ar y pryd, roedd Eifion Glyn wedi cychwyn y papur Sulun ac mi ddaru wneud ymholiadau a ffeindio fod 'na awgrym fod pobl eraill wedi gweld rhywbeth yn y llyn hefyd. Honnodd warden y llyn, sydd wedi marw erbyn hyn, ei fod wedi gweld rhywbeth yn symud ar hyd y llyn o bell pan oedd yn ei gar, yn edrych allan tuag at Llanycil. Pan aeth i lawr i'r llyn doedd dim i'w weld. 'Dwi wedi clywed am un arall a welodd gysgod mawr, hir, yn pasio o dan ei gwch wrth iddo bysgota ar y llyn. Daeth tîm o Japan draw yma yn yr 1980au ar ôl iddyn nhw glywed am yr hanes. Mi aethon nhw i lawr mewn sybmarîn bach, reit i ddyfnderoedd y llyn. Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw wedi darganfod dim. Yn ddiweddar, daeth boi o Awstralia draw, Tim Healy. Roedd o'n gweithio yn y brifysgol ac yn mynd rownd y byd yn gwneud gwaith ymchwil ar fwystfilod gan fod straeon fel stori Loch Ness yn reit gyffredin mewn gwahanol lynoedd. Roedd o am gyhoeddi llyfr ac mi ddaru o addo danfon un i mi, ond dwi ddim wedi clywed dim ganddo eto. A dyna fo - dwi ddim yn siŵr beth wnes i ei weld na beth sydd yn nyfnderoedd Llyn Tegid..."
|