Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bae Colwyn
Macawiaid yn Sŵ Mynydd Bae Colwyn Yn y sŵ
Beth sy'n digwydd yn unig sŵ mynydd Cymru tybed? Dyma Richard, sy'n gweithio yno, i rannu cyfrinachau'r sŵ uwchben Bae Colwyn a'r anifeiliaid sy'n byw yno.


TsimpansîGwegamera'r Morlewod
Gwyliwch sioeau'r morlewod yn y sŵ bob dydd ar ein gwegamera.

TsimpansîLluniau: Anifeiliaid y sŵ
Ewch i weld lluniau rhai o anifeiliaid y Sŵ Mynydd heddiw.

"Rydym wedi gorffen adeiladu'r sea lion rock, pwll mawr newydd i'r morlewod. Mae'n llawer mwy a llawer dyfnach na'r hen bwll - mae'n eithriadol o fawr!

"Gellwch weld y morlewod yn cael eu bwydo am ddeuddeg a thri o'r gloch bob dydd. Maen nhw'n gwneud triciau bach fel cydbwyso pêl ar eu trwynau. Mae hyn er mwyn iddynt gael amser i chwarae ac i gadw eu synhwyrau'n iach. Mae hefyd yn gwneud i'r morlewod deimlo'n gyfforddus yn cydweithredu efo pobl, sy'n help pan fo angen galw milfeddyg draw i roi triniaeth iddyn nhw, fel rhoi diferion yn eu llygaid neu gael golwg ar eu dannedd.

"Yn ystod yr haf, 'da ni'n cael gorymdaith y pengwiniaid ac mae adar ysglyfaethus yn cael eu dangos.

"Mae ganddon ni hefyd tsimpansïaid, giboniaid a marmosetod yn y tŷ mwncïod. Mae 'na arddangosfa Chimp Encounter hefyd, sef sioe bypedau mecanyddol sy'n esbonio pa mor agos i bobl ydy mwncïod, y bygythiadau maen nhw'n ei wynebu yn y gwyllt a sut y gallwn eu helpu.

Wiwer goch

"Mae'r sŵ yn un sy'n bridio anifeiliaid, sy'n golygu ein bod yn gweithio i sicrhau goroesiad rhai anifeiliaid. Mae gennym ni raglen y Red Return, sy'n ceisio sicrhau dyfodol y wiwer goch. Mae'n llwyddiannus iawn. Aethon ni â rhai draw i Niwbwrch a dwi'n meddwl eu bod yn gwneud yn dda yno.

"Mae 'na walabi newydd gael ei eni yma hefyd, ond yn anffodus mae ei fam wedi marw. Felly, mae'r cipar yn mynd â fo o gwmpas mewn pac ar ei gefn - yn lle'r pouch byddai gen ei fam. Mae'n aros efo fo dros nos gan ei fod angen cael ei fwydo bob tair awr. Sôn am commitment i'r swydd!

Teigr "Mae'r teigrod wedi bod yma ers tua pum mlynedd rŵan, Bryn a Zeta (Bryn Terfel a Catherine Zeta Jones i roi eu henwau cywir!) Fel arfer, mae'r anifeiliaid yn cael eu galw ar ôl beth bynnag sy'n boblogaidd ar y pryd. Felly enwau'r camelod ddaeth atom yn 1999 yn ystod cwpan rygbi'r byd yw lock a flanker ac enw un o'r pengwiniaid yw Dai Peckham. Mae 'na forlew o'r enw Rooney hefyd - bechod!"



Lleol i Mi
Trefi
Chwaraeon


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý