"Mae Gŵyl Lychlynwyr Amlwch yn digwydd bob yn ail flwyddyn, ar y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf. Yn 2006, mae'n rhedeg o Orffennaf 21 i 23.
"Dechreuodd yr ŵyl yn 1996 dan ofal fy nhad, y diweddar John Hughes Britannia, Val Roberts, Eric Roberts, Peter Williams a Di a Titch Craddock. Mi gymerais i le fy nhad a dwi'n rhan o'r grŵp sy'n helpu i drefnu'r ŵyl - ond dwi ddim yn gwisgo fel Llychlynnwr!
"Bob blwyddyn, mi fydd Cymdeithas y Llychlynwyr yn creu rhyw stori fel thema i'r ŵyl. Llynedd, roedd merch Oden, duw'r Llychlynwyr, wedi cael ei herwgipio ac roedd yn rhaid ymosod ar y dref i'w hachub hi.
"Yr unig beth sy'n sicr yw y caiff Oden ei ladd pob tro!
"Mi fydd aelodau'r gymdeithas yn gwisgo yn eu bŵts lledr, crwyn anifeiliaid (dim rhai go iawn wrth gwrs) a'u hetiau gyda chyrn. Gyda'r nos, maen nhw'n tynnu'r hetiau ac yn mynd i'r tafarndai i lenwi eu cyrn gyda chwrw!
"Mae Peter Williams yn adeiladu cwch hir y Llychlynwyr allan o ddeunydd hylosg digon rhad. Bydd plant lleol yn cynllunio'r tariannau i'w rhoi ar ochr y cwch ac mi fydd fy mam Phyllis yn gwnïo'r hwyliau.
"Ar ôl diwrnod o ail-greu'r ymladd yng Nghae Madyn, Amlwch, ar y dydd Sadwrn bydd y Llychlynwyr a'r cwch yn mynd ar orymdaith trwy'r dref tuag at Borth Amlwch. Rydan ni wedyn yn cael disgo a bandiau yn yr awyr agored cyn hudo pawb i lan y cei am ddeg o'r gloch. Mi fydd y Llychlynwyr i gyd yn sefyll ar dop Mynydd Shell ar lan yr harbwr, yn dal torch fawr baraffîn - mae'n olygfa wych.
"Wedyn, mi fydd 'na saethwyr dros y dŵr ar ochr arall y porthladd. Mi fyddan nhw'n saethu fflamau tuag at y llong a'i roi ar dân, gyda delw o Oden ymysg y fflamau. Ond gan ei fod yn dduw, mae'n cael mynd a dod fel y mynn!
"Mi fydd y system sain yn chwarae cerddoriaeth iasol ac yn adrodd stori'r ŵyl - mae'n creu awyrgylch ffantastig. 'Da ni am gael tân gwyllt eleni hefyd.
"Mae'r Ardglass Vikings o'r Iwerddon yn hwylio drosodd gyda dwy long Lychlynaidd ac eleni mi fyddan nhw'n hwylio o Amlwch draw i Borth Llechog ar y dydd Sul - felly cymerwch ofal, mi fyddent yn glanio ar y traeth am ychydig o pillaging!
"Daeth 11,000 o bobl i Amlwch dros y penwythnos y tro diwethaf a 'da ni'n gobeithio y bydd mor boblogaidd y tro yma hefyd. Ond mae'n anodd iawn hel arian tuag at yr ŵyl - mae'n anodd cael cymorth gan nifer fawr o sefydliadau, er bod yr ŵyl yn denu cymaint o bobl i dref fach fel Amlwch.
"Am fwy o fanylion cysylltwch â fi ar 07768860961 neu e-bostiwch arwel@madsoundandlighting.com"
Dylanwad y Llychlynwyr ar yr ynys