"Mi roedd gen i dri brawd ac mi aeth dau ohonyn nhw i'r navy - ac mi gollwyd y ddau o fewn wythnos i'w gilydd. Yn Burma roedd Hywel, fo oedd y f'enga yn 21 oed, ac mi gawson ni neges i ddweud ei fod yn 'missing in action' a chafwyd byth hyd i'w gorff. O fewn wythnos, mi gawson ni neges i ddweud bod Huw, oedd yn 22, wedi ei golli ar ôl i torpedo daro ei long. "Ro'n i'n nyrs yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd ac yn yr ysbyty oeddwn i pan glywais i'r newyddion. Mi ddoth y matron ata i a gofyn fasa hi'n cael 'y ngweld i. Dyma fi'n meddwl, 'Be dwi wedi ei wneud rŵan?' "'I'm sorry to have to tell you this ....' medda hi ... 'toes gan bobl ddim syniad sut oedd hi. "Roeddan ni'n cael llawer o prisoners of war yn yr ysbyty. Roedd na gamp i Eidalwyr yn y Faenol ac un ar gyfer Almaenwyr ym Mangor - i lawr lle mae Dicky's Boatyard rŵan. Dwi'n cofio'r Eidalwr cynta yn dod i gael ei drin - roedd ganddo fo apendiseitis drwg. Roedd o'n gweiddi ac yn pledio yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w ladd o oherwydd yr holl bropaganda roeddan nhw wedi ei gael. Wrth fynd i mewn i gael llawdriniaeth, a finna'n mynd i mewn efo fo, roedd o'n gweiddi 'No knife, no knife!' yn siŵr y basa fo'n cael ei ladd. Doedd ganddo fo ddim Saesneg a finna ddim Eidaleg i ddeud wrtho fo bod popeth yn iawn. "Ar ôl hynny, mi roedd lot o'r Eidalwyr a'r Almaenwyr yn dod i'r ysbyty - toedd ganddon ni ddim drwgdeimlad yn eu herbyn - wedi cael eu gorfodi i ymuno oeddan nhw, wedi cael eu conscriptio. Fel Hywel a Huw, doeddan nhw ddim isho joino chwaith. Gweithio yn y siop bwtsiar yn Amlwch oedd Huw yn mynd i'w wneud. "Peth arall rydw i'n ei gofio am y rhyfel ydy'r blacowts a'r rations. Doedd na ddim byd yn y siopa ond mi roedd na black market o gwmpas. Doedd na ddim siwgr ac mi stopiais gymryd siwgr yn fy nhe yr adeg honno - a dydw i ddim wedi cymryd wedyn! "Dwi'n cofio cerdded ar hyd stryd Bangor mewn tywyllwch dudew a phawb yn bympio i mewn i'w gilydd ac yn deud 'Esgusodwch fi'. Doedd gan neb ofn o gwbl yn cerdded yn y tywyllwch yn y nos - doedd na ddim trwbl yr adeg honno - dim fel heddiw efo pobl yn ymosod ar ei gilydd. Ond yr adeg honno - doedd na ddim o'r fath, dim. Mi fydda pobl yn deud 'Helo, sut ydach chi wrth ei gilydd' ar y stryd.
|