"Ganwyd Thomas Telford ar 9 Awst 1757 ar lan yr Afon Megget ger Langholm. Bugail oedd ei dad ond bu farw cyn diwedd y flwyddyn, ac felly tlawd iawn oedd y teulu. Er hynny, tyfodd i fod y peiriannydd sifil mwyaf cynhyrchiol a pharchus ei oes, yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Gyda chymorth gan amryw o bobl leol, cafodd Thomas ei addysgu yn yr ysgol a chafodd ei brentisio fel saer maen pan oedd yn 14 oed. Gweithiodd ar wahanol adeiladau syml yn yr ardal, ac ar bont yn Langholm, sydd yn sefyll hyd heddiw.
Aeth i Lundain yn 1782 i weithio ar Somerset House, a chafodd ei ddyrchafu'n fuan. Rhwng 1784 a 1786, gweithiodd fel goruchwyliwr ar amryw adeiladau yn iard ddociau Portsmouth.
Cafodd ei benodi fel Syrfewr Gwaith Cyhoeddus Sir Amwythig yn 1786. Erbyn 1798 roedd wedi adeiladu tair eglwys a mwy na 40 o bontydd yn y Sir. Am gyfnod o ugain mlynedd bu hefyd yn gweithio ar gamlesi Ellesmere a Llangollen sydd yn cynnwys traphont ddwr Y Waun (1801) a Phontcysyllte (1805). Yn ddiweddar, mae Pontcysyllte wedi'i chynnwys ar restr fer o safleoedd ar gyfer statws Treftadaeth y Byd, a disgwylir penderfyniad terfynol ar y cais yn ystod 2007.
Rhwng 1800 a 1820 rheolodd raglen i wella cysylltiadau yn Yr Alban, yn cynnwys 900 milltir o ffyrdd newydd, 300 milltir o welliannau, oddeutu 1000 o bontydd a gwelliannau i ugeiniau o borthladdoedd bychain. Ar yr un pryd yr oedd yn gyfrifol am ran sylweddol o'r gwaith dylunio ac adeiladu ar Gamlas Caledonia.
Yn 1808 cafodd ei wahodd i syrfeio llwybr ar gyfer camlas longau ar draws Sweden, a chafodd ddylanwad sylweddol ar gynlluniau Camlas Gotha a gafodd ei hagor yn 1832.
Er bod llawer o bobl yn ymwybodol mai Telford oedd yn gyfrifol am y ffordd o Lundain i Gaergybi, yn ogystal a phontydd crog Menai a Chonwy, nid yw cymaint yn ymwybodol iddo hefyd syrfeo oddeutu 450 milltir o ffyrdd yn Ne Cymru ar ran y lywodraeth rhwng 1823 a 1825.
Wedi iddo edrych ar wahanol lwybrau ar gyfer ffordd newydd rhwng yr Amwythig a Chaergybi, penodwyd Telford i'w hadeiladu yn 1815. Yr oedd yn dasg sylweddol gyda nifer fawr o wahanol adeiladweithiau yn cynnwys Pont Waterloo ym Metws-y-Coed (1816), Pont-y-Borth (1826), a chob Stanley ger Caergybi. Estynnwyd ei benodiad i gynnwys ffordd o Gaer i Fangor, gwaith sy'n cynnwys adeiladu ffyrdd o gwmpas Penmaenmawr a Phenmaenbach, pont grog arall gyda chob hir dros Aton Conwy (1826) a gwelliannau i'r llwybr rhwng Llanelwy a Threffynnon (yn cynnwys Rhuallt!)
Yn 1820 derbyniodd y gwahoddiad i fod yn Lywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a chadwodd y swydd hyd ei farwolaeth yn Llundain yn 1834. Mae ei ffrind Robert Southey, y bardd llawryfog, wedi ei alw'n "Colossus of Roads" a "Pontifex Maximus", sydd yn arwydd o'i statws yn y gymdeithas.
Yn 2007, cynhaliodd Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru ar y cyd gyda Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Porthaethwy a chyda chefnogaeth amryw o gyrff eraill gynhadledd i goffáu Telford ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd yn cynnwys cyfle i weld casgliad o arteffactau Pont y Borth ynghyd a rhai pethau o Bont Britannia.
Cynhaliodd y sefydliad hefyd deyrnged deithiol i Thomas Telford gan ymweld â rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol e.e. Pontcysyllte, Pont Grog Conwy, Pont y Borth a Morglawdd Stanley.
Bob Daimond