Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dirgelwch lluniau'r trên bach
Pwy dynnodd yr hen luniau yma o drenau Rheilffordd Ffestiniog yng ngorsaf Tan y Bwlch a Phorthmadog tybed? Fe hoffai'r Parchedig Michael Walker o Borthmadog wybod, ar ôl iddynt gael eu darganfod mewn blwch sbwriel yn Halifax.
Tren a dynes mewn gwisg Gymreig mewn gorsaf
'Taliesin' a Mrs Jones mewn gwisg Gymreig yng ngorsaf Tan y Bwlch 7.4.1958 next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý

Pan ddaeth y Parchedig Michael Walker yn ficer newydd i dref Halifax yng ngogledd Lloegr, daeth pawb i wybod yn gyflym ei fod yn ymddiddori mewn trenau stêm. Felly, pan ddaeth dyn lleol o hyd i focs o hen sleidiau o drenau wrth wagio tŷ hen ŵr lleol yn 1969, daeth â nhw i'r ficerdy.

Mae Michael Walker, sydd bellach yn byw ym Mhorthmadog, yn tybio mai rhywun oedd yn mynd â'i feic ar y trên o Halifax i ogledd Cymru oedd y ffotograffydd, ac o edrych ar y wybodaeth fanwl sydd wedi ei chofnodi ar bob sleid, daeth ar ei wyliau i ardal Ffestiniog yn y 1950au a'r 1960au cynnar. Mae'r lluniau'n dangos gorsaf Tan y Bwlch a Phorthmadog yn 1958 a 1963.

Cyd-ddigwyddiad pellach oedd fod y Parch. Walker a'i gyfeillion wedi cymryd y trên stêm o Finffordd i Dan y Bwlch yn 1958, yr un flwyddyn ag y tynnwyd llawer o'r lluniau, tra'n gwneud gwaith gwirfoddol ar y rheilffordd. Wrth fynd am dro ar hyd y rheilffordd o Dan y Bwlch, nhw oedd y bobl olaf i gerdded drwy'r twnnel tra roedd gweithwyr trydan-hydro yn ei lenwi ar eu holau.

Mewn dau o'r lluniau mae dynes mewn gwisg Gymraeg, sy'n cael ei chofnodi fel Mrs Jones yn y wybodaeth ar y sleidiau, yn cerdded wrth ochr y trenau. Wyddoch chi pwy oedd y ffotograffydd, neu a wyddoch chi unrhyw beth am y Mrs Jones neu'r trenau yn y lluniau?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý