Roedd gan Arglwydd Penrhyn, Richard Pennant, chwech planhigfa siwgr yn Jamaica ac roedd yn berchen ar 600 o gaethweision.
Roedd hefyd yn Aelod Seneddol dros Lerpwl, lle roedd prif borthladd allforio caethweision y byd ac yn ffigwr allweddol yn yr ymgyrch i wrthwynebu diddymiad caethwasiaeth.
Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal yn y castell, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o fis Ebrill 2007 ymlaen i adrodd hanes cysylltiad y Penrhyn â hanes caethwasiaeth. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cannoedd o lythyrau a ysgrifennodd Arglwydd Penrhyn i'w asiantau yn Jamaica meddai Marian Gwyn, rheolwr dysgu a chyfathrebu'r castell:
"Mewn un llythyr, mae'r Arglwydd Penrhyn yn rhoi cyngor am sut y dylid gofalu am y caethweision - mae'n pwysleisio na ddylid gorweithio y 'negroes or the cattle'.
"Roedd yn awyddus i ofalu amdanynt ond roedd yn meddwl amdanynt fel livestock." Teulu o Sir y Fflint oedd yn Penantiaid a ddatblygodd blanhigfeydd siwgr oedd yn defnyddio llafur caethweision yn Jamaica. Etifeddodd Richard Pennant stâd y Penrhyn drwy briodi Anne Susannah Warburton a buddsoddodd yn y stâd a'r diwydiant llechi lleol gydag arian o blanhigfeydd ei deulu yn Jamaica.
"Mae dau baentiad o'i blanhigfeydd yn Jamaica ym meddiant y castell. Cawsant eu paentio gan arlunydd lleol anhysbys yn y 1870au - ar ôl diddymu caethwasiaeth," meddai Ms Gwyn. "Gan fod y teulu Pennant yn wreiddiol o Sir y Fflint, byddent yn rhoi enwau fel Denbigh [enw'r blanhigfa yn y llun uchod] ar eu planhigfeydd yn Jamaica.
"Bydd yma greiriau fel cadwyni a gefynnau ar ddangos ac arddangosfa o'r gwaith mae Ysgol Gynradd Llanllechid wedi bod yn ei wneud gydag ysgol yn Jamaica am y cysylltiad rhwng ardal chwareli Bethesda a'r masnach caethweision.
"Defnyddiodd Arglwydd Penrhyn yr arian i fuddsoddi mewn ffyrdd, rheilffyrdd a chwareli llechi gogledd Cymru, felly mae tirwedd yr ardal wedi ei ffurfio gan y fasnach caethweision."
Cynhelir arddangosfa Sugar and Slavery - the Penrhyn Connection o 4 Ebrill i 4 Tachwedd 2007. Hanes teulu'r Penant a diddymiad caethwasiaeth
Prosiect Bethesda - Jamaica, Ysgol Gynradd Llanllechid
|