Cofiai Bob Owen fel yr oedd defaid yn cael eu gwerthu am oddeutu dwy bunt y pen yn y dechrau un, a gwartheg ar gyfartaledd yn tua deg punt.Cafwyd cynnydd cyson dros y blynyddoedd, ac fel y gwelais ar un o'r catalogau niferus a oedd ym meddiant Bob Owen, erbyn y flwyddyn 1964 yr oedd gwartheg yn mynd am oddeutu deunaw a thrigain gini. Fel hyn yr oeddynt wedi eu nodi:
Lot No. - 1
Ear No.- C2805/58
Description - Red & White Heifer On Point.
Ystyr 'On Point' yw ei bod ar fin dod â llo.
Mewn rhifyn o 'Fferm a Thyddyn,' dan y pennawd 'Atgofion Arwerthwr' ceir atgof gan yr arwerthwr Stanley Thomas o'r fuwch gyntaf i gael ei gwerthu am gan punt mewn sêl ym Mryncir. Dywed: "Rwy'n cofio, ym 1949 dwi'n meddwl...buwch newydd loia yn cael ei gwerthu am £100. Pawb bron wedi synnu, ac yn mynd i edrych ar y fuwch, y gyntaf i gael ei gwerthu am £100 yn yr ardal."
Mae'n amlwg i'r fenter o ddechrau cynnal mart yn Bryncir fod yn un llwyddiannus iawn gan y gwelir hysbysebion cyson am arwerthiannau yn y papurau lleol. R.G Jones oedd yr arwerthwr gydol y cyfnod cynnar hwn, ond daeth yn amser iddo yntau ymddeol.
Wedi i R.G. Jones roi'r gorau iddi, cwmni arwerthwyr Bob Parry a ddaeth i gymryd drosodd ym Mryncir. Er holi a holi yr wyf wedi methu'n lân a chanfod yr union ddyddiad y digwyddodd hyn ond mae'n debyg mai rywle yn y 30au neu ddechrau'r pedwardegau yr oedd. Nid ymddengys fod newid arwerthwr wedi cael dim effaith ddramatig ar weithrediadau'r mart ac mae'n siwr fod y cyfnewid wedi mynd yn hwylus.
Yn anffodus fodd bynnag roedd y cyfnod o gwmpas y 30au yn gyfnod anodd iawn yn economaidd ar y wlad i gyd ac yr oedd y ffermwyr fel pawb arall yn dioddef. Un datblygiad ddiddorol a gafwyd yn y cyfnod hwn oedd cychwyn arwerthiant ym Mryncir a elwid yn Sêl Goel.
Fferm Cwrt Isaf eto oedd yn bennaf gyfrifol am ddechrau'r arfer yma a'r hyn oedd yn digwydd oedd fod anifeiliad Cwrt Isaf yn cael eu gwerthu fel arfer yn y mart, ond fod y sawl oedd yn eu prynu yn cael cyfnod o chwe mis neu ragor cyn eu bod yn gorfod talu amdanynt. Roedd hyn yr rhoi cyfle i ffermwyr tlawd gael dal i ffermio ac yn rhoi cyfle iddynt werthu llefrith neu fenyn er mwyn casglu arian i dalu am yr anifail yn y diwedd. Fodd bynnag, a hithau'n gyfnod mor ansefydlog yn economaidd, gallasai hyn fod yn beryglus iawn i rai ffermwyr anffodus a oedd yn methu talu hyd yn oed ar ôl y cyfnod coel. Sonnir am hyn yn y cylchgrawn 'Fferm a Thyddyn,' lle nodir: "Bu i rai prynwyr anffodus fethu hyd yn oed i gael digon o bris i dalu'r coel, a hynny wedi cadw'r anifeiliaid am fisoedd lawer i'w cael yn barod i'w gwerthu. Cafodd rai golledion enbyd."
Er hyn yr oedd yr arwerthiannau yn rhai hynod boblogaidd a thyfodd yr arfer yn yr ardal. Dyma ddisgrifiad o'r cylchgrawn Fferm a Thyddyn:
"Hysbysebid yr arwerthiannau coel hyn yn helaeth ac weithiau trefnid bws yn arbennig i hebrwng cwsmeriaid posibl o LÅ·n ac Eifionydd neu lle bynnag.....byddai Bws Caelloi yn cael ei logi at yr achlysur."
Pan oedd pethau yn anodd i'r ffermwyr yr oedd hi'n mynd yn bur anodd hefyd ar y Cwmni Arwerthwyr a bu cyfnod pryderus yn hanes Cwmni Bob Parry yn y cyfnod hwn. Roedd sôn ar led eu bod yn mynd i'r wal, a'r ffordd y daethant allan o'u picil oedd drwy gynnig cyfranddaliadau i'r ffermwyr am oddeutu pum punt yr un. Llwyddodd hyn i ail-godi'r cwmni a pharhaodd y mart yn ddi-drafferth tan gyfnod diweddar.
Gwelwyd ambell olygfa hanesyddol yn y Mart hefyd, megis arwerthiant Buches Ty'n lon. Y perchennog oedd gŵr o'r enw John Evans, Tŷ Croes, Llangybi, ar y pryd ond sydd erbyn heddiw yn byw yng Nghricieth. Difyr oedd ei glywed yn adrodd yr hanes. Yr oedd wedi penderfynu ymddeol meddai, ac felly roedd yn rhaid gwerthu'r holl stoc, yn cynnwys y fuches ddu Gymreig. Yn dilyn arwerthiant cyffredinol ar y fferm penderfynwyd mynd a'r holl fuchod i'w gwerthu i'r mart ym Mryncir.
Gan fod nifer dda ohonynt a chan nad oedd y mart mor eithriadol o bell a hynny penderfynwyd mai'r ffordd rwyddaf i fynd a hwy yno fyddai eu cerdded. Aeth John Evans felly ar ofyn i un o'i ffrindiau a oedd yn byw yn agos i'r mart gan holi a gai o gadw'r fuches yn ei yn ei gaeau o am noson. Wedi i John Jones, Llecheiddior gytuno, rhaid oedd symud y gwartheg o un lle i'r llall. Llwyddwyd i wneud hynny gyda chymorth rhai o'r ffermwyr oedd ar ôl wedi diwedd y sêl ffarm. Cofnodwyd yn y llyfrau hanes mai John Evans oedd y dyn olaf i gerdded gyrr o wartheg o'r mart ac ymddangosodd llun o'r digwyddiad mewn amryw o bapurau lleol.
Gan ddyn o'r enw Tom Rees Roberts, Glasfryn Fawr gynt, y cefais wybod beth oedd union ystyr hysbyseb a ymddangosodd mewn rhifyn mis Ionawr 1949 o'r Herald Gymraeg, yn nodi: "Brynkir New Attested Premises."
Yn ôl Mr Roberts, cyfeirio roedd yr hysbyseb at y ffaith fod yna adeiladau gwahanol, ar wahân i wartheg oedd wedi eu profi am y firws diciau.
Dywedodd hefyd fod y gwahaniaeth ym mhris y gwartheg wedi eu profi, a'r rhai oedd heb eu profi, yn syfrdanol. Nid oedd yn rhaid i neb brofi ei anifeiliad bryd hynny ond o weld y gwahaniaeth yn y prisiau buan iawn y dechreuodd pawb brofi. Yn ddiweddarach daeth hyn yn gyfraith.
Yn Y Ffynnon, Tachwedd 1995, dan y pennawd 'Moderneiddio'r Mart.' ceir hanes arall yn ymwneud â'r adeiladau yn benodol. Sonnir am ddymchwel yr hen beniau defaid sinc. Nodir: "O'r diwedd, wedi sawl apêl...gwnaethpwyd i ffwrdd â'r dalennau sinc...Bellach mae corlannau'r defaid a arferai fod ym mhen ucha'r mart wedi eu dymchwel ac yn eu lle codwyd rhesi o gorlannau newydd sbon danlli y tu ôl i'r mart ar safle'r hen lein."
Ychydig a wyddai'r adeiladwyr bryd hynny, fod y byd amaethyddol, yn ogystal â'r mart yn wynebu blynyddoedd caled iawn, a bod diwedd un cyfnod llwyddiannus yn hanes y mart ar fin dod i ben mewn ychydig flynyddoedd.
Yn Y Ffynnon, Rhifyn 277 Ebrill 2001, dan y pennawd 'Ergyd Greulon' disgrifia R.P. yr hyn a ddigwyddodd ar ddydd Mercher y 4ydd o Ebrill 2001: "fel rhyw stori ffŵl Ebrill hwyrol a di-chwaeth."
Dyma'r diwrnod y cyhoeddodd cwmni Bob Parry eu bod am gau marchnad Bryncir ynghyd a dau fart arall yn Llanrwst a Thalycarn, wedi rhai blynyddoedd o arwerthu llwyddiannus. Digwyddodd hyn ar ddechrau cyfnod du iawn yn hanes amaethyddiaeth sef y cyfnod lle roedd Clwy'r Traed a'r Genau yn ei anterth. Â R.P ymlaen i ddweud: "bydd effaith y cau yn bell gyrhaeddol ar y pentref a'r gymuned amaethyddol yma yn Eifionydd a thu hwnt".
Credai llawer mai dyma oedd diwedd y mart yn Bryncir, gan fod y cau yn dilyn nifer o flynyddoedd o ddirywiad cyffredinol ym myd y prynu a'r gwerthu. Yr oedd yn ergyd arall i'r byd amaethyddol yma yn Eifionydd.
Fodd bynnag, nid oedd ffermwyr yr ardal am weld colli'r mart, a oedd, fel y gwelwyd, wedi cael cyfnodau llwyddiannus iawn. Yn dilyn y cau, a phethau yn ddu iawn yn y byd amaeth led led Prydain, ac iselder ysbryd yn bygwth y mwyafrif o ffermwyr digwyddodd rhywbeth a oedd ac yn ôl R.J Jones (Dic) o'r NFU yn bur "syfrdanol". Daeth amaethwyr at ei gilydd, bu trafod a phendronni mawr ac ar waethaf popeth, y farn gyffredinol oedd fod Cwmni Bob Parry wedi gwneud tro sal iawn â'u cwsmeriad a bod angen dangos nad oedd ysbryd y ffermwyr wedi ei dorri yn llwyr. Cynyddodd yr achos dros geisio ail sefydlu'r mart yn Bryncir. Cyfaddefodd Dic Jones fod y cyfnod yn dilyn y cau wedi bod yn un eithriadol o anodd iddo ef fel swyddog undeb yn ogystal â'r ffermwyr. Ond meddai: "Profodd hwn i fod yn un achos lle gwelwyd cyd-weithio rhyfeddol rhwng y ddau Undeb Amaethyddol. Achub y mart oedd y nod ac i wneud hynny roedd yn rhaid cyd weithio."
Ymlaen i hanes yr ailsefydlu ...