Mi allwch chi gasglu llawer o wybodaeth wrth sgwrsio efo'r teulu. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd gopïau o ddogfennau teuluol pwysig fel tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodi.Mae cofnodion llai ffurfiol hefyd yn bwysig iawn wrth hel achau. Peidiwch ag anghofio am ddyddiaduron, llythyrau, llyfrau lloffion, llyfrau cyfeiriadau, adroddiadau ysgol, tystysgrifau addysgol a chardiau pensiwn. Mae lluniau yn arbennig o ddefnyddiol ac yn medru bod yn hwb i gof ambell un. Weithiau mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar gefn lluniau felly cofiwch edrych ac ychwanegu manylion os nad ydynt ar gael. Mae'n hawdd anghofio! Mae pob teulu'n chwarel o straeon bach a mawr ond dydyn nhw ddim i gyd yn wir! Holwch wahanol aelodau o'r teulu a defnyddio unrhyw ffynonellau eraill er mwyn cyrraedd at y gwir. Mae hel achau erbyn hyn yn boblogaidd iawn a chynigir cyrsiau mewn llyfrgelloedd, colegau a phrifysgolion. Mae gwybodaeth am y rhain i gyd ar gael gan eich awdurdod addysg lleol neu chwiliwch am fanylion mewn cylchgronau hel achau neu hanes teuluol. Mae cymdeithasau hanes teuluol hefyd yn ddefnyddiol iawn a phwy a ŵyr na fydd rhywun arall yno'n ymchwilio i hanes eich teulu chi hefyd! Mae'r we bellach yn adnodd newydd a chyffroes ac mae cyfoeth o safloedd ardderchog ar gael ar achyddiaeth a hanes teuluol. Dyma ffordd wych o rwydweithio, sef cysylltu efo pobl eraill â diddordeb yn y maes a chael gwybodaeth ar yr un pryd. Fe allwch chi ddefnyddio'r we hefyd i gael cofnodion swyddogol fel rhai'r cyfrifiad, cronfeydd data neu feddalwedd arall i greu eich coeden deulu. Ond cyn dechrau, cofiwch am wreiddiau'r goeden os oes arnoch chi eisiau adeiladu coeden iach. Rhaid ichi weithio yn ôl, fesul cenhedlaeth. Mae gweithio ymlaen yn siŵr o greu trafferthion lu. Wrth ymchwilio, fe gewch eich synnu sawl tro sydd ar y daith, gan gynnwys troeon trwstan, ac mi gewch chi hefyd gipolwg nid yn unig ar hanes eich teulu ond hefyd ar hanes y gymdeithas ehangach mewn lle ac ar adeg arbennig.
|