Mae Madge bellach yn 82 oed ac wedi byw yn yr Unol Daleithiau am bron i 60 mlynedd.Ar ymweliad diweddar â Chymru, bu'n hel atgofion am y cyfnod gyda'r gyflwynwraig Siân Pari Huws gan esbonio sut y daeth yn un o'r 6,000 o 'GI Brides' a hwyliodd i America am fywyd newydd ar gyfer rhaglen arbennig ar Â鶹Éç Radio Cymru.
Roedd Madge (Williams bryd hynny) yn ferch ifanc annibynnol yn byw gyda'i chwaer ym Mangor ac yn gweithio fel gweinyddes pan dorrodd y rhyfel.
Roedd y Drill Hall ar Glyn Road yn lle pwysig yn ei bywyd ar y pryd gan ei bod yn mynychu dawnsfeydd yno, ac yno yr aeth am ei dêt cyntaf efo swyddog yn yr awyrlu yn y Fali, Bob Wing.
O fewn mis gofynnodd y gŵr ifanc o Maine, UDA, i Madge ei briodi o dan y bont ger yr orsaf drenau ym Mangor.
Meddai Madge: "... a finna'n meddwl 'dim chance. Faswn ni byth licio mynd a gadael yr hen wlad. Ond wedyn, saith mis wedyn, oeddan ni yn priodi ym Mangor."
"Roeddan nhw'n dweud eu bod nhw'n over-paid, over-sexed and over here ond to'n i ddim yn gweld hynny'n fair. Oni'n gweld bod Bob yn ddyn da."
Doedd tad Madge ddim yn cytuno gyda'r briodas, ac oherwydd hynny, ddaeth dim teulu i'r briodas, dim ond cyfeillion y ddau.
"To'ddan nhw ddim isho i mi fynd i 'Merica wrth gwrs. A nhad yn dweud, 'wir ddyn,' medda fo, 'os briodi di'r Yank yna mi fyddi di wedi gwneud dy wely, a mi fydd raid i ti orwedd ynddo fo'... A dyna be 'nes i."
"A finna'n ifanc, doeddwn i ddim yn meddwl faswn i hiraeth, dim ond meddwl 'dwi'n mynd i 'Merica - adventure mawr ynte?'. Ond wyddoch chi be? Oni â hiraeth am flynyddoedd. Oeddan nhw (y teulu) yn meddwl mod i wedi mynd am byth - roedd Merica yn ddiwedd y byd yr adeg honno 'toedd?"
Er gwaetha'r ffrae deuluol, roedd gorsaf Bodorgan yn orlawn o deulu yn ffarwelio pan ddaeth yn amser gadael cartref i ymuno a'i gŵr newydd yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Madge a Bob ddwy ferch ac mae bellach yn hen nain. Bu farw ei gŵr naw mlynedd yn ôl.
Bu Madge yn dweud ei stori ar raglen Gwraig y GI ar Â鶹Éç Radio Cymru.