"Mae'n siŵr fod llawer o bobl leol yn ymwybodol o'r cyfoeth a'r amrywiaeth o ffynhonnau sydd ym Mhen Llŷn ac i lawer ohonynt gysylltiadau crefyddol a iachaol.
"Wrth baratoi Cynllun Rheoli cyntaf ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol (AHNE) LlÅ·n daeth yn amlwg fod cyflwr llawer o'r ffynhonnau hyn wedi dirywio yn sylweddol a bod ansicrwydd ynglÅ·n ag enwau a lleoliad rhai ohonynt. "Penderfynwyd felly i gomisiynu prosiect ymchwil i gael gwybodaeth lawnach am ffynhonnau'r ardal a'u cyflwr.
"Penodwyd yr awdur a'r hanesydd lleol Elfed Gruffydd i wneud y gwaith ar ran y Gwasanaeth Ardal o Harddwch. Roedd gwaith yr Arolwg Ffynhonnau yn cynnwys ymchwilio i hanes a chefndir ffynhonnau'r ardal, asesiad o'u cyflwr presennol ac argymhellion ar gyfer gwneud gwelliannau a dehongli.
"Daeth yn amlwg o'r arolwg mai un o ffynhonnau pwysicaf yr ardal oedd Ffynnon Fyw, Mynytho (ger Capel Hebron). Rhoddir disgrifiad pur fanwl o'r ffynnon gan Myrddin Fardd yn ei gyfrol Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908) lle dywed ei bod yn ffynnon ragorol ac iddi furiau amgylchynol, grisiau i arwain ati, meinciau ar gyfer y defnyddwyr a dau faddon.
"Cafwyd gwybodaeth bellach am y ffynnon yn y gyfrol Ffynhonnau Cymru gan Ken ac Eirlys Gruffydd, Llyfrau Llafar Gwlad, 1999. Penderfynwyd dechrau ar y gwaith adfer ar y ffynnon hon oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol, ei hadeiladwaith nodweddiadol a'r ffaith ei bod mewn lleoliad hwylus i ymweld â hi. Roedd perchennog y tir hefyd yn gefnogol i'r gwaith.
"Pan wnaed yr arolwg roedd y ffynnon o'r golwg dan dyfiant ac nid oedd yn bosib mynd yn agos ati. Yn fuan ar ôl dechrau clirio'r tyfiant daeth gogoniant y ffynnon i'r golwg ac roedd y gweithwyr lleol Dylan Roberts a Gwilym Squires yn dweud ei fod yn bleser gweithio ar y safle. Fel y mae'r lluniau hyn yn ei ddangos mae'r waliau wedi eu hadfer a'u sefydlogi (er nid i'r uchder gwreiddiol) y ddau fasin wedi eu clirio, y gofer wedi ei drwsio a cherrig oddi mewn i'r ffynnon wedi eu hail osod. "Ar sail iechyd a diogelwch penderfynwyd gosod ffens a giât o amgylch y ffynnon ond er mwyn amharu cyn lleied â phosibl a gweddu i'r cefndir gwledig, penderfynwyd gosod ffens amaethyddol a giât bren.
"Y camau nesaf fydd gwadd archwilwyr Cadw draw i roi ystyriaeth i restru'r ffynnon a llunio rhaglen gynnal a chadw er mwyn ceisio sicrhau na fydd y ffynnon yn dirywio i'r fath raddau eto." Bleddyn Jones, Swyddog AHNE LlÅ·n, Cyngor Gwynedd.
|