Mae dull yr hen Gymry o ddefnyddio enw bedydd y tad fel cyfenw yn gallu achosi penbleth i'r sawl sy'n mynd ati i hel achau gan fod cyfenw'r teulu yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Fe allwch yn hawdd fynd ar goll wrth geisio olrhain eich teulu bob yn 'ap'!Ond fe ddechreuodd yr hen drefn yma newid yn y 15fed ganrif. Yr uchelwyr oedd yn gyfrifol am y newid yn gyntaf ond yna fe ddechreuodd y werin fabwysiadu'r dull Seisnig hefyd a pharhaodd y newid hyd at ganol y 18fed ganrif. Mae cyfenwau diweddar a chyffredin ymysg y Cymry fel Powell, Price a Pritchard yn deillio o'r arferiad o Seisnigo enwau fel ap Hywel, ap Rhys ac ap Richard, fel y bydden nhw wedi eu hadnabod yn wreiddiol. Daeth yr enwau Bowen a Bevani fod yr un ffordd. Roedd merched yn defnyddio'r un drefn weithiau wrth ddefnyddio'r rhagddodiad 'ferch' neu 'ach' yn lle 'ap'. Roedden nhw hefyd yn cadw eu henwau morwynol wrth briodi oherwydd nad oedd cyfenwau'n cael eu defnyddio. Mae'r dewis o gyfenwau Cymraeg heddiw felly yn brin ac fe ychwanegwyd at y diffyg amrywiaeth gan y duedd i ddefnyddio enwau saint yn Saesneg, fel John, William, David, Thomas, Hugh. Fe ddatblygodd yr enwau yma'n ddiweddarach yn Jones, Williams, Davis, Thomas a Hughes. Mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys y gogledd, roedd enwau llefydd yn cael eu defnyddio fel cyfenwau gan rai, a llysenwau hefyd weithiau, yn enwedig yn y canolbarth. Mae'r cyfenw Jenkins naill ai'n llygriad ar fersiwn Fflemeg yr enw John neu yn brawf o boblogrwydd yr enw Ieuan yn y cyfnod. O'r enw Ieuan y daeth y cyfnew Evan(s) a Jones hefyd. Mae'r dull o gofnodi genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn swyddogol hefyd yn cymhlethu'r sefyllfa. Un o ganlyniadau Deddf Uno 1536 oedd gorfodi defnyddio'r Saesneg fel cyfrwng swyddogol cofnodion. Oherwydd hyn, roedd enwau'n gorfod cael eu cofrestru yn eu ffurf Saesneg ac erbyn dechrau cofrestru sifil ym 1837 roedd y Cymry hefyd yn defnyddio cyfenwau. Ond, mae'r Saeson hwythau wedi mabwysiadu a Seisnigo rhai enwau Cymraeg hefyd, er enghraifft aeth Du yn Dee a Charadog yn Craddock. Ond bu adfywiad yn y defnydd o'r dull traddodiadol o enwi plant ymhlilth rhai Cymry Cymraeg ddiwedd y ganrif ddiwethaf; mae rhai o ohebwyr y 麻豆社 fel Iolo ap Dafydd a Rhun ap Iorwerth yn enghreifftiau adnabyddus.
|